Mae NCPHWR yn gwneud hyn trwy ddod ag ymchwilwyr a gwasanaethau ymchwil, y GIG, gwneuthurwyr polisi, y trydydd sector, ac aelodau’r cyhoedd ynghyd er mwyn gwneud gwaith ymchwil arloesol mewn meysydd fel gwella iechyd cyhoeddus.
Mae tîm ymchwil y Ganolfan wrthi’n chwilio am gyfleoedd i weithio ar brosiectau cydweithredol newydd ar themâu Datblygu Iechyd i Blant a Phobl Ifanc a Heneiddio’n Iach.
Rydym yn awyddus i weithio gydag ymchwilwyr, ymarferwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, elusennau, ysgolion, llywodraeth leol a chenedlaethol a grwpiau cymunedol.
Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad neu os hoffech siarad ag aelod o’r tîm.
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr
Cadw mewn cysylltiad â’r holl newyddion a digwyddiadau diweddaraf gan NCPHWR






