Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, a ariennir gan lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn dod â thîm ynghyd o ymchwilwyr, ystadegwyr a dadansoddwyr data o safon fyd-eang o brifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor wrth ymyl Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn deall, gwerthuso a hysbysu gwelliannau iechyd y boblogaeth.
Our research and interventions look to support people’s health and well-being throughout life, with our work exploring and tackling some of today’s most difficult health and social challenges.
Ein Meysydd Gwaith Allweddol
Y Labordy Gwyddor Data
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad wrth ddatblygu iechyd y boblogaeth. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn darparu isadeiledd sy’n cefnogi, yn cyfoethogi ac yn cynyddu capasiti a gallu mewn ymchwil gwyddor data poblogaethau.
Gwireddir rhan o’r ymrwymiad hwn drwy ein Labordy Gwyddor Data sy’n ceisio gwneud y canlynol:
Hyfforddi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ac ymchwilwyr i ddeall a defnyddio data yn well.
Caffael Data. Ein nod yw cyflwyno ffynonellau newydd o ddata iechyd a data nad yw’n ymwneud ag iechyd, gan ychwanegu a chyfoethogi setiau data a gedwir yng Nghymru ar hyn o bryd, gan alluogi ymchwilwyr yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd i gael dealltwriaeth well o benderfynyddion cymdeithasol ehangach iechyd a lles.
Ymchwil Profiadau Andwyol mewn Plentyndod a’r Blynyddoedd Cynnar (ACE)
Nod ein gwaith yw helpu i roi dechrau iach a diogel i blant mewn bywyd. Mae tystiolaeth helaeth i ddangos bod profiadau unigolyn yn ystod plentyndod yn rhan bwysig wrth lywio ei ddyfodol – gan fod datblygiad plentyn yn y blynyddoedd cynnar yn cael ei gysylltu â chanlyniadau addysgol ac iechyd da mewn plentyndod, a gwella canlyniadau iechyd a chyflogaeth pan yn oedolion. Mae ein hymchwil i nodau ACE yn nodi effaith y profiadau hyn mewn plentyndod. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn y maes ymchwil hwn.
Ymchwil Bywyd Gwaith Iach
Mae poblogaeth y DU yn newid gyda llawer o bobl bellach yn disgwyl byw a gweithio am gyfnod hwy. Ein nod yw cael dealltwriaeth well o iechyd a heneiddio a sut gall gwaith a ffyrdd o fyw wella ansawdd bywyd person. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn y maes ymchwil hwn.
Ymchwil Cyflyrau Cronig
Effaith uniongyrchol poblogaeth sy’n heneiddio yw’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n byw gyda salwch cronig. Bydd ein tîm yn parhau i gefnogi ymchwil i arthritis, asthma, anhwylderau cardiofasgwlaidd, heintiau ac anafiadau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn y maes ymchwil hwn.
Cydweithio ehangach
Nid yw ein hymchwil yn gyfyngedig i’n meysydd gwaith allweddol yn unig. Mae ein tîm yn cydweithio ag ymchwilwyr a sefydliadau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ystod eang o ymchwil a heriau poblogaeth cwrs bywyd.
Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) wedi cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn cynyddu faint o waith ymchwil arloesol sy’n cael ei wneud yng Nghymru; mae’n gwneud hyn trwy ddod ag ymchwilwyr a gwasanaethau ymchwil, y (GIG) neu Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwneuthurwyr polisi, y trydydd sector ac aelodau’r cyhoedd ynghyd er mwyn:
Gwaith Partneriaeth
Mae’r NCPHWR yn gydweithrediad rhwng:
Mae NCPHWR yn cydweithio’n agos â chanolfannau ymchwil arweiniol eraill ledled y DU, gan gynnwys:
Oes cwestiwn gennych chi?
Os oes gennych gwestiwn ymchwil, neu os hoffech weithio a chydweithio gydag ymchwilwyr yn y Ganolfan, neu os oes gennych unrhyw ymholiad arall, cysylltwch â ni!