Mae’r Ganolfan ar gyfer Iechyd a Lles y Boblogaeth yn canolbwyntio ar ymagwedd gydol oes at ymchwil
Y Blynyddoedd Cynnar
Mae ymchwilwyr NCPHWR yn defnyddio data er mwyn cael dealltwriaeth well o iechyd plant a phobl ifanc, ac effaith polisïau a gwasanaethau ar eu canlyniadau. Mae gwaith ymchwil blaenorol yn cynnwys:
Bywyd Gwaith Iach a Chyflyrau Cronig
Mae ymchwilwyr NCPHWR yn defnyddio data cysylltiedig er mwyn astudio’r ffactorau a all helpu pobl yng Nghymru i fyw bywydau hirach a mwy iach. Mae gwaith ymchwil blaenorol yn cynnwys:
Oes gennych chi gwestiwn yr hoffech i ymchwilwyr NCPHWR ei ateb, neu ydych chi eisiau gweithio gyda’r Ganolfan?
Mae tîm ymchwil y Ganolfan wrthi’n chwilio am gyfleoedd i weithio ar brosiectau cydweithredol newydd ar themâu Plant a Phobl Ifanc a bywyd gwaith estynedig iach. Maent yn awyddus i weithio gydag ymchwilwyr, ymarferwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, elusennau, ysgolion, llywodraeth leol a chenedlaethol a grwpiau cymunedol.
Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiwn ymchwil neu os hoffech drafod sut gall NCPHWR helpu i wella eich gwasanaeth gofal iechyd, gofal cymdeithasol, elusen neu ysgol.