

Amcangyfrifir bod dros 1.6 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn unig yn meddu ar anhwylder bwyta megis anorecsia neu fwlimia.
Mae’r anhwylderau hyn yn effeithio ar fenywod sy’n agored i niwed gan amlaf a chaiff y mwyafrif ohonynt eu diagnosio yn ystod eu llencyndod a’u hoedolaeth gynnar.
Mae derbyn diagnosis a thriniaeth yn gynnar yn hanfodol ar gyfer y sawl ag anhwylder bwyta ond nid yw llawer o bobl bob amser yn gofyn am gymorth – a hyd yn oed pan fyddant yn gofyn am gymorth mae’n anodd eu trin. Ni chaiff llawer ohonynt eu diagnosio neu eu trin yn amserol.