

Unwaith eto, rhoddodd Adroddiad Blynyddol y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth gyfle i ni bwysleisio effaith ein gwaith rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021.
Mae’r Ganolfan yn cynnal ymchwil drwy wneud synnwyr o ddata sy’n gallu helpu i gefnogi ac i wella iechyd a lles pobl drwy gydol eu bywydau. Mae ein gwaith yn archwilio ac yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf anodd ac mae’n rhoi gwybodaeth newydd i helpu llunwyr polisi a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wneud gwelliannau ar sail gwybodaeth i iechyd y boblogaeth – gan gynnwys, er enghraifft, drwy leihau anghydraddoldebau cymdeithasol a chostau gofal iechyd.
Yn ystod blwyddyn mor unigryw â hon, mae’r Ganolfan wedi llwyddo i adnabod yr heriau a achoswyd o ganlyniad i bandemig Covid-19 ac ymateb iddynt i gynyddu dealltwriaeth ynghylch sut mae’r pandemig wedi effeithio ar y boblogaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
‘Mae adroddiad eleni wedi bod yn gyfle i bwysleisio’r ymchwil a gynhaliwyd rhwng y Ganolfan a’n cydweithredwyr a’n partneriaid. Mae’r cydweithrediadau hyn wedi bod yn sail i’n gwaith ac maent yn dangos yn fwy nag erioed y gwerth y gall cydweithio ei gynnig wrth gefnogi a chyflawni ymchwil ystyrlon.’ Sam Dredge, Rheolwr y Ganolfan.
Mae’r adroddiad llawn ar gael yma