

Chroeso i Adroddiad Blynyddol y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Lles y Boblogaeth 2021-2022, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae’r Ganolfan wedi parhau i roi blaenoriaeth i ymchwil perthnasol i bolisi i ymateb i heriau a gyflwynwyd gan bandemig COVID-19. Mae ymchwil wedi canolbwyntio ar ddeall yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar bobl yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ysgolion, cartrefi gofal, niferoedd sy’n cael brechiad, a’r effaith i’r rheiny sydd â chyflyrau iechyd cronig. Yn ogystal, rydym wedi cydweithio â phrifysgolion eraill ledled y DU i archwilio effaith COVID-19 i’r rheiny â chyflyrau cronig.
Mae gweithio yn ystod y pandemig wedi darparu cyfleoedd hefyd i ddatblygu a gwerthuso dulliau newydd mewn cydweithrediadau a phartneriaethau rhyngwladol. Rydym wedi gwneud cryn gynnydd hefyd yn ein rhaglenni Datblygiad Iach a Bywyd Gweithio Iach, yn ogystal ag yn ein gwaith cydweithio a meithrin gallu.
Datblygiad iach
Mae astudiaethau wedi canolbwyntio ar werthuso 1000 diwrnod cyntaf bywyd a’r blynyddoedd cynnar ar gyfer babanod. Mae’r prosiect Ganwyd yng Nghymru wedi parhau i hwyluso’r ddealltwriaeth o’r profiadau y mae darpar rieni a rhieni newydd yn eu cael; mae hyn yn galluogi darparu help a chefnogaeth briodol i roi’r cychwyn gorau i’w plentyn. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio gan Fydwragedd ledled Cymru erbyn hyn, gan helpu gwella profiadau rhieni, gyda’r nod o feithrin gwell dealltwriaeth o unrhyw heriau y gallent eu hwynebu.
Bywyd gwaith iach
Rydym wedi archwilio tirwedd newidiol cyflogaeth gan gynnwys gweithio o gartref, a’r effaith a gaiff y model newydd hwn ar iechyd a lles pobl.
Meithrin gallu
Rydym wedi gweithio i gefnogi ymchwilwyr gyrfa cynnar a darparu interniaethau ar gyfer unigolion sy’n gobeithio ymgymryd â gyrfa mewn iechyd y boblogaeth. Mae ein dealltwriaeth o gynnwys y cyhoedd a chleifion wedi’i datblygu ymhellach ar gyfer cyddestun iechyd y boblogaeth trwy gynnal adolygiad systematig cynhwysfawr; o ganlyniad, mae cynrychiolwyr cleifion yn cael eu hintegreiddio’n gynyddol yn rheolaeth strategol a chyflawniad amcanion allweddol i fodloni’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer cynnwys y cyhoedd a chleifion mewn ymchwil.
Cydweithrediad a phartneriaethau rhyngwladol
Ym mis Chwefror 2022, daeth y Ganolfan â dros 250 o gynrychiolwyr o 20 gwlad ynghyd yn ein Rhaglen Cydweithrediad Rhyngwladol Cyntaf i hwyluso rhannu profiadau a chydweithio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn iechyd y boblogaeth yng Nghymru ac o’i chwmpas tu hwnt.
Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.