

Unwaith eto, roedd Adroddiad Blynyddol eleni yn rhoi cyfle i ni dynnu sylw at ein hymchwil a wnaed yn ein pecynnau gwaith a’n gweithgareddau estynedig ar draws y Ganolfan rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.
Arddangos cyflawniadau
Mae’r adroddiad yn dangos ein cyflawniad allweddol o ran ennill dros 8 miliwn o gyllid ar gyfer ymchwil iechyd y boblogaeth yng Nghymru. Roedd cydweithredu yn allweddol i’r llwyddiant hwn. Mae gweithio mewn partneriaeth â grwpiau ymchwil ledled y DU fel Health Data Research UK a Administrative Data Research UK wedi golygu bod y Ganolfan yn gallu dangos ei harbenigedd arweiniol mewn ymchwil data iechyd y boblogaeth yn y DU i sicrhau cyllid rhyngwladol.
Hefyd, amlygwyd ein llwyddiant parhaus o ran cefnogi ymchwil iechyd a lles plant, gan helpu i lywio polisi, arfer a darpariaeth ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Yr hyn i’w nodi’n benodol wrth ddangos ein llwyddiant oedd cydnabyddiaeth ryngwladol ymyriadau ysgol fel Dysgu yn yr Awyr Agored a Y Filltir Ddyddiol.
Uchelgeisiau ar gyfer y flwyddyn i ddod
Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i ni gyflwyno ein huchelgeisiau ymchwil ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Wrth symud ymlaen, bydd ein gwaith yn rhan o ymchwil y blynyddoedd cynnar yn parhau ac yn cael ei ymestyn gan ganolbwyntio’n fwy ar feichiogrwydd a’r 1000 diwrnod cyntaf.
Ymateb i COVID-19
Fodd bynnag, gyda dyfodiad y Coronafeirws, symudodd llawer o’n sylw i’n galluogi i ddefnyddio ein harbenigedd a’n gwybodaeth ym maes iechyd y boblogaeth, iechyd y cyhoedd a gofal iechyd i helpu i ddeall a brwydro’r pandemig.
Ers y cyfyngiadau symud, mae Rhwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN, prosiect allweddol i’r Ganolfan, wedi bod yn cynnal ymchwil i gael gwell dealltwriaeth o effaith COVID-19 ar iechyd a lles disgyblion ysgolion cynradd a staff ysgol yng Nghymru, gyda’r nod o helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau.
Hefyd, wrth geisio llywio’r ymateb i’r pandemig, mae ein tîm wedi bod yn rhan o gydweithio rhyngwladol, wrth weithio gyda chydweithwyr o Fanc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) a Rhwydwaith Ymchwil Data Iechyd y DU i gyflymu ymchwil COVID-19.
Mae adolygiad o’r ymateb rhyngwladol wedi’i gynnal hefyd a nododd y Ganolfan wrth weithio gyda chydweithwyr yn yr Unol Daleithiau barodrwydd ac arferion ymateb iechyd y cyhoedd i argyfwng sy’n cymharu â’r rhai a ddefnyddir mewn meddygaeth a meysydd eraill yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
Gyda’r heriau parhaus sy’n ein hwynebu oherwydd y pandemig, bydd y ganolfan yn parhau i lywio’r ymateb drwy weithio gyda phartneriaid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Darllenwch ein hadroddiad llawn yma.
Sam Dredge, Rheolwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth.
Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn dwyn ynghyd tîm o ymchwilwyr, ystadegwyr a dadansoddwyr data o’r radd flaenaf o Brifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall, gwerthuso a llywio gwelliannau i iechyd y boblogaeth.