

Archwiliodd adolygiad a gyhoeddwyd heddiw gan Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth y ffordd orau o gyflawni ‘Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd’ mewn ymchwil iechyd y boblogaeth.
Beth yw Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd, a pham mae’n bwysig?
Mae cynnwys cleifion a’r cyhoedd (PPI) yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd a chleifion yn gweithio gydag ymchwilwyr i gynllunio, dylunio, cynnal a lledaenu ymchwil. Mae PPI wedi’i wreiddio ym mhob rhan o’r broses ymchwil i sicrhau bod yr ymchwil yn berthnasol i anghenion a phryderon pobl – gan sicrhau bod gan y rheiny a fydd yn elwa o’r astudiaeth yn y pen draw lais.
Nodau’r adolygiad
Ar hyn o bryd, mae diffyg arweiniad i ymchwilwyr ac aelodau PPI ar sut i wneud PPI yn dda. Nod yr adolygiad hwn oedd archwilio sut y gellir gwneud PPI yn ‘iawn’.
Cyflawnodd y tîm hyn drwy edrych ar y dystiolaeth o adolygiadau cyhoeddedig, ei asesu yn erbyn Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd, ac archwilio beth sy’n gwneud PPI yn heriol.
Nododd yr ymchwilwyr 31 o adolygiadau o astudiaethau cyhoeddedig ar draws ymchwil iechyd y boblogaeth a ddangosodd enghreifftiau da o PPI.
Heriau
Hyd. Mae ymchwil iechyd y boblogaeth yn aml yn edrych ar newidynnau iechyd dros gyfnod hir – sy’n gwneud recriwtio a chadw cynrychiolaeth PPI addas ar hyd y prosiect yn fwy heriol.
Cymhlethdod. Gall yr amrywiolion a’r cymhlethdodau niferus sy’n gysylltiedig ag ymchwil iechyd y cyhoedd fod yn gymhleth i leygwr eu deall.
Wedi’i lywio gan ddata Yn aml, mae prosiectau iechyd poblogaethau yn cael eu llywio gan setiau data mawr a gallant gynnwys gwybodaeth am algorithmau, ystadegau uwch a thechnegau dadansoddol sy’n gallu bod yn ddieithr i’r rhai nad oes meddylfryd mathemategol ganddynt.
Cynrychiolaeth. Mae ymchwil iechyd y boblogaeth yn mynd i’r afael â grwpiau poblogaeth mawr ac amrywiol, ac mae’n heriol sicrhau gwir gynrychiolaeth, gyda chynrychiolaeth yn mynd yn arbennig o anodd gyda rhai grwpiau demograffig heb gynrychiolaeth ddigonol.
Prif ganfyddiadau
- Mae diffyg ymchwil ac eglurder ynghylch llywodraethu (safonau arfer da) ac effaith (yr effaith y mae ymchwil yn ei chael ar bobl a chymdeithas).
- Prin yw’r wybodaeth am PPI gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Mae bylchau mewn gwybodaeth ar gyfer aelodau tîm PPI – yn enwedig o ran ymdrin â chymhlethdod ymchwil data.
Offer ymarferol
Mewn ymateb i ganfyddiadau’r adolygiad, datblygodd y tîm ymchwil ddau offeryn i helpu ymchwilwyr ac aelodau PPI i wella eu gweithgarwch PPI. Roedd yr offer yn cynnwys:
- Fframwaith o gamau gweithredu a argymhellir i fynd i’r afael â PPI mewn ymchwil iechyd y boblogaeth.
- Arweiniad ar integreiddio PPI yn seiliedig ar Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd mewn Ymchwil.
Dywedodd yr Athro Jane Noyes, a arweiniodd yr adolygiad:
“Er bod PPI yn gynyddol bwysig mewn ymchwil gofal iechyd, prin yw’r dystiolaeth ar y ffordd orau o wneud hynny.
Bydd canfyddiadau’r gwaith hwn a’r offer a ddatblygwyd gan y tîm yn ein helpu i gyflawni ein nod o hwyluso cynnwys rhagorol y cleifion a’r cyhoedd mewn ymchwil i’r boblogaeth ac iechyd y cyhoedd.”
Darllenwch yr erthygl lawn gyhoeddedig yn BMC Public Health
Ariennir y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.