

Mae tadau’n chwarae rôl ganolog yn natblygiad iach eu plentyn – o adeg y beichiogrwydd a’r enedigaeth i fagu’r plentyn a’i baratoi ar gyfer yr ysgol, mae tadau’n bwysig bob cam o’r ffordd.
Mae astudiaethau wedi darganfod bod lles meddyliol a chorfforol cadarnhaol mewn tadau yn arwain at ddatblygiad meddwl a chorfforol iach mewn plant. Er enghraifft, mae plant yn fwy tebygol o fod yn barod ar gyfer yr ysgol a gwneud yn well yno os oes gan eu tadau les meddyliol cadarnhaol ac maent yn llai tebygol o ddatblygu iselder ysbryd (gweler: Timing of parental depression on risk of child depression and poor educational outcomes: a population based routine data cohort study from Born in Wales, UK | medRxiv)
Yn yr un modd, bydd gordewdra yn ystod plentyndod yn llai tebygol, yn enwedig ymhlith merched, os bydd gan eu tad iechyd corfforol da (gweler: Child Fitness and Father’s BMI Are Important Factors in Childhood Obesity: A School Based Cross-Sectional Study (nih.gov)
Mae’r astudiaeth ‘Ganwyd yng Nghymru’ yn ceisio archwilio iechyd meddwl a chorfforol tadau sydd wedi cael plentyn yn ddiweddar a’r rhai sy’n disgwyl. Hoffem ni wybod sut mae’r profiadau hyn wedi effeithio arnoch chi ac rydym ni am glywed eich barn am yr hyn y gellir ei wneud er mwyn gwella eich lles emosiynol a chorfforol yn ystod beichiogrwydd a’r enedigaeth.
Mae tadau sydd wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth wedi mynegi’r “angen am ragor o absenoldeb tadolaeth a hawliau i bartneriaid” ac maent wedi galw am “ragor o gymorth ariannol ar gyfer rhieni sy’n cael eu plentyn cyntaf.”
“Mae lles meddyliol a chorfforol y tad yn dylanwadu ar ddatblygiad plentyn, a dyna pam mae tadau’n bwysig. Mae’r astudiaeth ‘Ganwyd yng Nghymru’ am ddeall yr hyn y mae ei angen er mwyn cefnogi iechyd a lles tadau newydd. Mae angen i dadau ofalu am eu hunain hefyd, er mwyn gallu cefnogi eu partner a’u babi” – Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth.
Gyda’ch cymorth chi, gallwn ni ddeall y ffordd orau o gefnogi teuluoedd yn y dyfodol er mwyn rhoi’r dechrau gorau i blant yn eu bywydau a gwella eu haddysg, eu hiechyd a’u lles.
Er mwyn cwblhau’r arolwg i bartneriaid sy’n disgwyl plentyn, cliciwch yma.
Adnoddau defnyddiol i Dadau
Hafan Dads Matter (dadsmatteruk.org)
Men’s Health Forum (menshealthforum.org.uk)
Dynion ac iechyd meddwl | Y Sefydliad Iechyd Meddwl