

Mae astudiaeth a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn PLOS ONE wedi dod i’r casgliad nad oes cysylltiad rhwng y defnydd o atalydd pwmp proton a risg uwch o dementia.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys carfan o fwy na 180,000 o unigolion dros 55 oed y rhagnodwyd PPI iddynt rhwng 1999 a 2015.
Mae atalyddion pwnc proton (PPI) yn cael eu rhagnodi’n fwyfwy ar gyfer clefydau treuliadol gastroberfeddol ac maent wedi chwyldroi rheolaeth rheoli asid y stumog ac afiechyd adlifiad. O ganlyniad, mae cleifion yn tueddu i barhau â thriniaeth gyda PPIs yn lle ymyrraeth lawfeddygol.
Mae pryderon cynyddol am ddiogelwch sy’n gysylltiedig â’r defnydd tymor hir o PPI, ac mae rhai astudiaethau’n awgrymu bod PPI yn gysylltiedig â risg uwch o ddementia. Fodd bynnag, o ganlyniad i ganfyddiadau anghyson a nifer fawr y bobl sy’n cymryd PPI, roedd yr ymchwilwyr am ymchwilio i’r risg bosib mewn mwy o fanylder.
Dim tystiolaeth o gysylltiad
Canfu’r ymchwil, dan arweiniad tîm o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd a Lles y Boblogaeth a HDRUK ym Mhrifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Ymchwil i Ddementia ym Mhrifysgol Caerdydd, fod y defnydd o PPI yn gysylltiedig â risg o ddementia a oedd 30% yn llai. Fodd bynnag, mae angen ymchwil bellach i ymchwilio i’r berthynas gymhleth rhwng dementia a’r defnydd o PPI.
Canfu’r tîm fod y defnydd o PPI yn gysylltiedig â risg o ddementia a oedd 30% yn llai. Roedd meddyginiaeth orbwyseddol a gwrthgeulol hefyd yn gysylltiedig â risg lai o ddementia. Roedd meddyginiaeth wrthiselder a gwrthblatennau, ac anafiadau pen yn gysylltiedig â risg uwch.
Mae angen ymchwil bellach
Meddai ymchwilydd blaenllaw yn y Ganolfan gyfer Iechyd y Boblogaeth, Dr Roxanne Cooksey,: Hyd y gwyddom, dyma’r dadansoddiad dilynol mwyaf hyd yma o’r defnydd o PPI a’r risg gysylltiedig o ddementia sy’n defnyddio’r holl gofnodion iechyd. Mae ein canfyddiadau’n darparu tystiolaeth gadarn sy’n nodi nad yw’r defnydd o PPI yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu dementia.
“Bydd ein gwaith yn y dyfodol yn ymchwilio i’r cysylltiadau hyn a fydd yn ein helpu i ddeall y berthynas rhwng PPI a dementia ymhellach; er enghraifft, drwy ymchwilio i hyd triniaethau PPI a’r risg gysylltiedig o ddatblygu dementia ymysg gwahanol is-fathau o ddementia. Mae dementia yn gyflwr amlffactor a chymhleth iawn ac mae gan ymchwil rôl hanfodol i chwarae wrth ddatblygu ein dealltwriaeth o’r clefyd.