

Mae parhau’n iach yn feddyliol ac yn gorfforol yn ystod oedolaeth, hyd at henaint, yn bwysig i leihau’r risg o ddatblygu cyflyrau cronig, atal problemau rhag gwaethygu, a mynd i’r afael ag iechyd meddwl ac iselder o ganlyniad i unigrwydd.
Mae’r Athro Ronan Lyons, Dr Roxanne Cooksey a Soo Vinnicombe yn siarad am eu gwaith yn y maes ymchwil pwysig hwn.
Yr Athro Ronan Lyons, Cyfarwyddwr NCPHWR ym Mhrifysgol Abertawe
Uchafbwynt atal
Gall newidiadau i gartrefi helpu pobl i fyw bywyd annibynnol, iachach. Ar hyn o bryd, mae llawer o gartrefi’n anaddas, ac mae’n bwysig addasu a gwella i leihau costau gofal iechyd a chymdeithasol. Mae tai o ansawdd gwael yn cael effeithiau negyddol ar iechyd y preswylwyr, a chredir bod tai oer yn achosi 33% o glefydau anadlol, a 40% o glefydau cardiofasgwlaidd. Amcangyfrifir bod 12.8 o farwolaethau ychwanegol fesul 100,000 o farwolaethau yn sgil byw mewn tai sydd heb gael eu gwresogi’n ddigonol.
Archwiliodd ein hymchwil y posibilrwydd y gallai uwchraddio tai cyngor, a datblygu tai i’r safon ansawdd cenedlaethol, leddfu’r pwysau ar y GIG. Edrychodd yr astudiaeth hon ar ddata 8,558 o breswylwyr tai cyngor yn Sir Gâr rhwng 2007 a 2016. Cwblhawyd gwelliannau yng nghartrefi’r preswylwyr, gan gynnwys systemau gwresogi a thrydanol newydd, insiwleiddio atig a waliau, ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, ffenestri a drysau newydd a llwybrau gardd.
Fe wnaethom ni ganfod gostyngiad sylweddol yn nifer y derbyniadau i ysbyty ar gyfer y rheiny yn y cartrefi wedi’u gwella. Fe wnaeth y canfyddiadau ddangos ostyngiad sylweddol o hyd at 39% mewn derbyniadau mewn argyfwng ar gyfer salwch cardiofasgwlaidd ac anadlol. Roedd hyn ar gyfer tenantiaid 60 oed a hŷn, ond roedd canlyniadau tebyg ar gyfer pobl o bob oed.
Mae ein hastudiaeth yn darparu cronfa dystiolaeth gadarn, a gellir ei defnyddio i lywio llywodraethau lleol a gwneuthurwyr polisi – gan arddangos bod gwelliannau i dai yn cyfrannu at atal – a fydd yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar gymdeithas, yr economi, ac iechyd cyhoeddus.
Dr Roxanne Cooksey, ymchwilydd NCPHWR ym Mhrifysgol Abertawe
Uchafbwynt atal
Mae llawer o bobl yn byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor, fel diabetes, asthma, arthritis a chyflyrau iechyd meddwl; mae hyn yn effeithio’n fawr ar ansawdd bywyd, ac mae’n gosod baich cynyddol ar ddarpariaeth iechyd a chostau cysylltiedig. Mae angen i ni wella o ran helpu pobl i reoli eu cyflyrau eu hunain, ac atal problemau rhag gwaethygu, a chefnogi gwella.
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar arthritis ac, yn ddiweddar, archwiliais ankylosing spondylitis (AS), sef yr ail arthritis llidiol mwyaf cyffredin, ar ôl arthritis rhiwmatoid. Yn wahanol i arthritis rhiwmatoid, mae AS fel arfer yn dechrau yn ystod yr arddegau. Gan fod y cyflwr yn dechrau’n gynnar mewn oes, gall y rhagolygon o ran addysg, cyflogaeth a theulu fod yn gyfyngedig. Gall y llid sy’n gysylltiedig â’r cyflwr arwain at yr asgwrn cefn yn ymgyfuno’n barhaol, sy’n lleihau symudedd ac ansawdd bywyd yr unigolyn yn fawr. Yn aml, mae pobl ag AS yn byw gyda llawer o boen, anystwythder a blinder.
Fe wnaeth y data ein galluogi i amcangyfrif cost AS, a oedd oddeutu £20,000 y claf, y flwyddyn. Mae gwybod gwir gost cyflyrau yn bwysig er mwyn gallu gwneud cyfrifiadau cost a budd cywir, a gwella mynediad at feddyginiaethau ar gyfer y rheiny sydd eu hangen. Roedd argymhellion o’r astudiaeth yn cynnwys trin unigolion ag AS â chyffuriau effeithiol yn gynnar, er mwyn atal niwed strwythurol a helpu lleihau symptomau difrifol y clefyd. Trwy ddefnyddio achlysuron difrifol cynnar o’r clefyd fel marciwr, gellir amlygu unigolion fel ymgeiswyr ar gyfer meddyginiaethau drud ac effeithiol.
Fe wnaethon ni hefyd ganfod bod ymarfer corff yn effeithiol o ran gwella gallu ymarferol, yn enwedig ar gyfer y rheiny â chlefyd difrifol. Felly, gall annog ymarfer corff helpu gwella ansawdd bywyd claf, a lleihau’r gost sy’n gysylltiedig â’r cyflwr. Mae ein hastudiaethau wedi cynhyrchu’r asesiad mwyaf cynhwysfawr o gost wirioneddol AS yn y DU hyd yn hyn, ac wedi cael eu cynnwys mewn canllawiau iechyd cenedlaethol ar sut i drin y cyflwr.
Mae ankylosing spondylitis yn gyflwr gwanychol, hyd oes, sy’n dechrau’n gynnar mewn bywyd. Nid oes gwella, fodd bynnag, mae gwelliannau i driniaethau yn golygu y gellir rheoli symptomau cleifion, a lleihau difrifoldeb y clefyd. Yn aml, caiff diagnosis ei oedi hyd at 10 mlynedd, sy’n golygu nad yw pobl yn cael triniaeth yn gynnar. Rydym ni’n ymchwilio i arwyddion a symptomau cynnar i ganfod y cyflwr yn gynt, a fydd yn helpu i wella ansawdd bywyd pobl sy’n byw ag ankylosing spondylitis.
Soo Vinnicombe, ymchwilydd NCPHWR ym Mhrifysgol Bangor
Uchafbwynt atal
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd o gysylltu pobl â grwpiau, gweithgareddau a gwasanaethau yn y gymuned, y gellir eu defnyddio i wella iechyd a lles. Mae helpu pobl i fyw’n dda ac yn annibynnol yn y gymuned yn hynod o bwysig i helpu rheoli cyflyrau iechyd hirdymor, yn ogystal ag atal a lleihau unigrwydd.
Nod Rhwydwaith Ymchwil Cymru Gyfan i Bresgripsiynu Cymdeithasol yw adeiladu tystiolaeth hanfodol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r rhwydwaith ymchwil yn cael effaith ar wasanaethau presgripsiynu cymdeithasol presennol a datblygol trwy gyfathrebu gwell, adeiladu tystiolaeth ar ganlyniadau unigol a chymunedol, cyfalaf cymdeithasol a gwerth am arian.
Mae’r Rhwydwaith yn dod ag academyddion, ymarferwyr, comisiynwyr, a rhanddeiliaid allweddol eraill at ei gilydd i gytuno ar flaenoriaethau ymchwil, cefnogi ymchwil ar gynhyrchir ar y cyd, a chynhyrchu a gwerthuso cyflwyniadau am grantiau. Mae’n ffordd i gysylltu sefydliadau ag amrywiaeth o bobl sy’n angenrheidiol i hyrwyddo ymgysylltu cymunedol a chynhyrchu ar y cyd i ddatblygu ymchwil ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Mae’r Rhwydwaith hefyd yn cysylltu â rhwydweithiau presgripsiynu cymdeithasol y tu allan i Gymru i gyfnewid profiadau a gweithio gyda’i gilydd ar syniadau ymchwil newydd.
Dechreuwyd y Rhwydwaith Ymchwil i Bresgripsiynu Cymdeithasol ym mis Ebrill 2018, ac mae’n ffordd wych i ddod ag ystod eang o bobl at ei gilydd i drafod yr heriau niferus sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol. Mae gan bresgripsiynu cymdeithasol y potensial i chwyldroi’r ffordd y mae pobl yn meddwl am iechyd a lles trwy ddarparu llwybrau eraill i leddfu problemau nad ydynt yn dibynnu ar atebion meddygol yn unig, gyda’r nod o atal problemau mwy difrifol rhag codi o gwbl. Ond mae angen cronfa ymchwil a gwerthuso gadarn i sicrhau bod yr arian a fuddsoddir mewn presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru yn cael ei ddyrannu mor effeithiol â phosibl.