

Gwnaeth yr Astudiaeth Ganed yng Nghymru, a arweinir gan ymchwilwyr yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth edrych ar effaith y pandemig ar ganlyniadau geni ac archwilio profiadau mamau beichiog.
Defnyddiodd ymchwilwyr ddata o Fanc Data SAIL a chynnal astudiaeth gymharol. Mae Banc Data SAIL (Data Diogel o Wybodaeth Gysylltiedig Ddienw) yn casglu data iechyd a’r boblogaeth yn rheolaidd – gan gyflwyno data anhysbys am bobl ar gyfer gwaith ymchwil a dadansoddi.
Astudiaeth ddwy ran
Aseswyd canlyniadau geni ar lefel y boblogaeth yng Nghymru gan y tîm, megis geni’n farw, cyn amser, pwysau geni a genedigaethau drwy doriad Cesaraidd – rhwng 2016 a 2019, y cyfnod cyn y pandemig ac yn ystod 2020.
Roedd dwy ran i’r astudiaeth: dadansoddi data gan SAIL ar feichiogrwydd a chanlyniadau geni yng Nghymru, cyn ac yn ystod y pandemig, ac arolwg ar-lein am brofiadau mamau beichiog.
Canfyddiadau o’r data
· Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y canlyniadau blynyddol, gan gynnwys cyfnod beichiogi (y cyfnod rhwng beichiogi a geni) a phwysau geni, marw cyn geni a genedigaethau drwy doriad Cesaraidd ar gyfer babanod a anwyd yn 2020 o’i gymharu â rhwng 2016 a 2019.
· Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, cafwyd cynnydd yn y genedigaethau hwyr (hwy na 42 wythnos ers beichiogi). Yn ystod yr ail gyfnod o gyfyngiadau symud, cafwyd gostyngiad mewn genedigaethau cynamserol cymedrol i hwyr (32 i 36 wythnos ers beichiogi).
· Cafodd llai o fabanod eu geni yn 2020 o’i gymharu â 2016 i 2019.
· Derbyniodd yr holl fabanod eu himiwneiddiadau yn 2020, ond cafwyd ychydig o oedi o ran rhoi’r brechiadau.
Canfyddiadau’r arolwg
· Cafodd y pandemig effaith negyddol ar iechyd meddwl 71% o ymatebwyr yr arolwg, a nododd bryder, straen ac unigrwydd; roedd hyn yn gysylltiedig â mynd i apwyntiadau sgan heb bartner, rhoi genedigaeth ar eu pennau eu hunain a dim llawer o gyswllt gyda’r bydwragedd.
Meddai Hope Jones, Ymchwilydd gyda Ganed yng Nghymru:
“Mae ein canfyddiadau’n dangos bod y Pandemig wedi cael effaith negyddol iawn ar iechyd meddwl mamau beichiog, gyda’r mwyafrif yn nodi pryder, unigrwydd ac ofn, sy’n cael effaith emosiynol negyddol ar famau beichiog.
Serch hynny, nododd y data nad oedd babanod a aned yn ystod COVID-19 yn dangos anfanteision na chanlyniadau andwyol o’u cymharu â babanod a anwyd cyn y Pandemig o ran pwysau geni ac a gawsant eu geni ar amser.”
Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth:
“Gall iechyd, lles a bywyd teulu yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd, gael effaith ar iechyd a lles ein plant yn y dyfodol. Felly, mae cefnogi iechyd rhieni da a datblygiad cadarnhaol yn ystod y flwyddyn gyntaf ac yn fwy pwysig, drwy’r Pandemig yn hollbwysig.
Astudiaeth sy’n parhau
Mae Ganed yng Nghymru’n astudiaeth sy’n parhau sy’n ceisio llywio gwelliannau o ran iechyd, addysg a lles plant yng Nghymru. Bydd y tîm ymchwil yn edrych ar gynnal dadansoddiad dilynol ym mlwyddyn gyntaf bywyd i archwilio a yw straen yn ystod beichiogrwydd a newidiadau parhaus y pandemig yn cael canlyniadau tymor hwy ar gyfer y baban a’i deulu.
Mae astudiaeth Ganed yng Nghymru’n edrych i weithio gyda mamau beichiog a’u partneriaid – i weld yr arolwg a chael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://ncphwr.org.uk/portfolio/born-in-wales/
Mae fersiwn cyn argraffu o’r papur ymchwil ar gael ar medRxiv
erthygl newyddion yn Medical Life Sciences
Ariennir Canolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR) gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.