

Date: dydd Llun 17th Chwefror 2020
Times: 9.00am – 4.00pm
Venue: Siopa Capitol, Caerdydd.
Cost: Am ddim
Fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd, byddwn yn meddiannu un o’r siopau yng Nghanolfan Siopa Capitol. Bydd y lle yn cynnwys llu o ddigwyddiadau gwych i chi eu mwynhau drwy gydol yr ŵyl.
Ymunwch â ni am hwyl creadigol ac ymarferol a dechreuwch ludo, paentio a lliwio.
Bydd ymchwilwyr o Rwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN yn gwahodd ymwelwyr ifanc i fynegi sut maent yn teimlo drwy baentio eu hwynebau ar blât mewn ffyrdd creadigol (paent, pefr, gludo).
Mae HAPPEN yn rhwydwaith Cymru gyfan sy’n dod ag addysg, iechyd ac ymchwil ynghyd, yn unol â chynigion y cwricwlwm newydd ar gyfer Iechyd a Lles. Drwy gymryd rhan yn arolwg HAPPEN, gall ysgolion feithrin dealltwriaeth well o iechyd corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol plentyn i alluogi pawb i weithio ar y cyd i wella lles plant a chyrhaeddiad academaidd. Mae Rhwydwaith HAPPEN yn rhan o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR) a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.