

Mae rhianta cadarnhaol a chryf yn bwysig i greu’r amgylchedd cywir i fagu plant a’u paratoi ar gyfer bywyd. Mae ymchwil ac ymyriadau NCPHWR wedi ceisio cefnogi a helpu teuluoedd, â’r nod o atal problemau rhag datblygu yn y lle cyntaf.
Mae ymchwilwyr NCPHWR, Verity Bennett, yr Athro Sinead Brophy, yr Athro Shantini Paranjothy a Charlotte Todd, yn siarad am eu hymchwil i atal, ac yn esbonio pam mae cefnogi teuluoedd mor bwysig i ddatblygu iachus.
Verity Bennett, ymchwilydd NCPHWR ym Mhrifysgol Caerdydd
Uchafbwynt atal
Mae 30 o fabanod a phlant bach yn mynd i’r ysbyty gyda llosgiadau o ddiod poeth bob dydd. Mae’r rhain yn digwydd adref bron bob amser, ac yn digwydd yn annisgwyl. Mae plentyn mewn perygl fwyaf pan mae’n dechrau symud o gwmpas, ac archwilio’r byd ei hun. Tynnu paned o de poeth oddi ar arwyneb o fewn gafael yw’r brif ffordd y caiff y plant hyn eu llosgi. Mae llosg yn ystod plentyndod yn hynod o drawmatig i’r plentyn a’i deulu, a gall yr effeithiau corfforol a seicolegol bara oes.
I fynd i’r afael â’r her iechyd cyhoeddus sylweddol hon, a helpu i’w hatal, fe wnes i weithio gyda Chanolfan Ymchwilio i Losgiadau Plant ym Mhrifysgol Caerdydd i ddylunio, datblygu a phrofi dichonoldeb ymyriad yn y gymuned mewn cydweithrediad â Dechrau’n Deg Caerdydd. Treilawyd cyfres o ddeunyddiau aml-gyfrwng, gan gynnwys magnetau oergell, posteri, siartiau cyrraedd, taflenni, fideos byw, a gweithgareddau, gan ymwelwyr iechyd, sgweinyddesau meithrin ymunedol, a staff grŵp chwarae yng Nghaerdydd. Hyfforddwyd y staff mewn epidemioleg llosgiadau diodydd poeth, atal a chymorth cyntaf, ac yna cyflwynwyd yr ymyriad dros chwe mis yn ystod 2016-17.
Yn seiliedig ar yr holl ganfyddiadau ac adborth gan rieni a gweithwyr iechyd proffesiynol, mae gwaith celf newydd a deunyddiau gwell wedi cael eu datblygu, ac mae fideos ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol wedi cael eu cynhyrchu’n broffesiynol. Rydym ni ar hyn o bryd yn cynllunio i lansio ‘Te-diogel’ trwy ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, a bydd y deunyddiau’n cael eu hategu mewn fformat y gellir eu lawrlwytho ar hwb ar y we. Bydd Te-diogel yn mynd yn fyw ar 16 Hydref 2019, a’i fwriad yw lleihau nifer yr achosion o losgiadau o ddiodydd poeth a’u difrifoldeb i blant bach ledled y DU, a gwella gwybodaeth rhieni am gymorth cyntaf llosgiadau.
Mae datblygu dulliau cost isel newydd ar gyfer cyflwyno ymyriadau atal anafiadau yn hanfodol ar gyfer iechyd cyhoeddus yn ein hinsawdd economaidd bresennol. Trwy gynnal ein deunyddiau ar-lein, rydym ni’n gobeithio cynyddu hygyrchedd a chyrhaeddiad ein deunyddiau, a dulliau i atal trawma llosgiadau adeg plentyndod, a lleihau’r baich ar system gofal iechyd.
Yr Athro Sinead Brophy, ymchwilydd NCPHWR ym Mhrifysgol Abertawe
Uchafbwynt atal
Mae gordewdra plant yn her fawr i iechyd cyhoeddus. Yng Nghymru, canfu’r Rhaglen Mesur Plant Genedlaethol gyntaf, a gyhoeddwyd yn 2013, fod 22% o ddisgyblion dosbarth derbyn (4–5 oed) dros bwysau neu’n ordew.
I helpu deall a mynd i’r afael â’r her iechyd hon, cyflawnom astudiaeth a oedd yn archwilio’r prif rwystrau i ddewisiadau deietegol yr oedd rhieni â babanod yn eu hwynebu, a’r mathau o ymyriadau ac argymhellion polisi yr hoffai rhieni eu gweld yn cael eu rhoi ar waith i hyrwyddo amgylchedd bwyd iachach.
Mae gan deulu a rhieni gryn ddylanwad ar bwysau iach plentyn. Amlygodd rhieni sbardunau a arweiniodd at ddewisiadau deietegol afiach, fel dibynnu ar allfeydd bwyd cyflym oherwydd gwaith sifft, diffyg mynediad at drafnidiaeth bersonol, analluedd i goginio, eu profiadau deietegol eu hunain yn ystod plentyndod, pwysau gan gyfoedion, a pherthnasoedd teuluol.
Mae rhieni’n argymell bod allfeydd ‘bwyd cyflym’ yn cael eu cyfyngu, dylid lleihau hyrwyddo bwyd afiach mewn archfarchnadoedd, a gwella mynediad at gynnyrch ffres fforddiadwy o ansawdd uchel yn yr ardal leol ac mewn archfarchnadoedd, dylid rhoi mwy o bwyslais mewn ysgolion ar hyrwyddo bwyta’n iach, ac ymgysylltiad mwy uniongyrchol rhwng rhieni ac ysgolion. Fe wnaeth yr astudiaeth ddatgelu’r angen i ddarparu cyngor targedig i dadau, rhieni lleiafrif ethnig, a gwnaed cais am gyngor a gwybodaeth deilwredig ac ymarferol ar sut i brynu, paratoi, storio a choginio bwyd, ynghyd â dosbarthiadau coginio cymunedol a gwersi coginio gwell mewn ysgolion.
Mae’r argymhellion o’r astudiaeth hon yn darparu cipolwg gwerthfawr i weithwyr iechyd proffesiynol, gwneuthurwyr polisi lleol a chenedlaethol, y cyfryngau, a’r diwydiant bwyd, ar y rhwystrau amrywiol i fwyta’n iach y mae rhieni’n eu hwynebu. Gellir defnyddio’r canfyddiadau i atal, trwy ymgysylltu â’r cyhoedd, herio achosion anghydraddoldeb o ran treuliant deietegol, a theilwra gwybodaeth ar gyfer y rheiny â’r angen mwyaf.
Yr Athro Shantini Paranjothy, ymchwilydd NCPHWR ym Mhrifysgol Caerdydd
Uchafbwynt atal
Amcangyfrifir bod hyd at 30% o blant yn byw gydag oedolyn â phroblem iechyd sy’n gysylltiedig ag alcohol neu anhwylder meddwl.
Mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan gynnwys salwch meddwl a chamddefnyddio alcohol yn y teulu, yn gysylltiedig yn ystod oedolaeth â chamddefnyddio sylweddau, salwch meddwl, gordewdra, clefyd y galon, canser, diweithdra, a bod yn gysylltiedig â thrais.
Fodd bynnag, ychydig bach a ŵyr am effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel cyflyrau iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol yn y teulu, ar iechyd corfforol plentyn.
Dangosodd ein hastudiaeth fod plant sy’n byw mewn teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan gyflyrau iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol yn fwy tebygol o gael eu derbyn i ysbyty mewn argyfwng yn ystod eu plentyndod. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd darparu cefnogaeth i’r teuluoedd hyn. Hefyd, dylid parhau i ymdrechu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol-economaidd – mae ein hastudiaeth yn dangos eu bod nhw’n rhai o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at dderbyniadau i ysbyty mewn argyfwng ymhlith plant.
Rydym ni wedi dangos bod camddefnyddio alcohol ac anhwylderau meddwl yn gyffredin ymhlith teuluoedd ifanc. Mae angen ymyriadau newydd i gefnogi teuluoedd ifanc dan effaith, i sicrhau plentyndod iach ar gyfer eu plant.
Charlotte Todd, ymchwilydd NCPHWR ym Mhrifysgol Abertawe
Uchafbwynt atal
Gall iselder ymhlith pobl ifanc arwain at ganlyniadau iechyd a chymdeithasol gwael. O ganlyniad, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amlygu’r angen i ganfod beth sy’n rhoi pobl mewn perygl o ddatblygu iselder fwyaf – er mwyn gallu dylunio gwasanaethau mewn ymateb i hyn.
Mae cael rhiant ag iselder yn ffactor risg mawr mewn datblygu iselder ymhlith pobl ifanc. Fodd bynnag, faint o’r risg honno sydd o ganlyniad i’r plentyn yn byw gyda rhiant sydd ag iselder? Ac a oes risg i blant sydd â mam neu dad â hanes o iselder cyn iddynt gael eu geni? A yw’r risg hon yn wahanol, gan ddibynnu ar a oedd gan eich mam neu dad iselder? Fel tîm, rydym ni’n archwilio’r cwestiynau hyn yn fanylach.
Mae ein hymchwil yn cynnwys astudio data 500,000 o blant, dros 250,000 o famau a 100,000 o dadau.
Mae’r canlyniadau cynnar yn dangos bod y risg o ddatblygu iselder a methu arholiadau ysgol ar ei huchaf ymhlith plant â rhieni a oedd yn dioddef iselder cyn ac ar ôl geni eu plentyn, sy’n dangos bod hyd y cyfnod yr oedd y rhiant yn dioddef o iselder yn bwysig. Er bod y risg ychydig yn fwy ymhlith mamau, roedd byw gyda thad ag iselder hefyd yn gwneud i’r plant fod yn fwy tebygol o ddioddef iselder a methu arholiadau ysgol.
Credwn fod ymyriad cynnar yn allweddol i wella canlyniadau plant. Mae rhai o’n hargymhellion allweddol yn cynnwys:
- Gall buddsoddi mewn ymyriadau teuluol cynnar, lle mae’r naill riant yn dioddef o iselder, gyfrannu’n fawr at yr agenda atal, a gwella llu o ganlyniadau plant.
- Yn draddodiadol, mae gwasanaethau ymwelwyr iechyd, ac ymyriadau eraill yn y maes hwn wedi canolbwyntio’n fawr ar sgrinio am iselder ac ymyriadau ymhlith mamau. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth o iselder ymhlith tadau.
- Mae angen ymagwedd gyfannol, sy’n ystyried yr unigolyn cyfan (y corff, emosiynau a’r meddwl), i fynd i’r afael ag iechyd meddwl ymhlith teuluoedd.
Gallai helpu rhieni ag iselder arwain at fuddion parhaus i’r plentyn. Yn bwysig iawn, gellir defnyddio ein canlyniadau i lywio ymyriadau a gwasanaethau i helpu atal ac, yn y pen draw, gwella canlyniadau i deuluoedd a phlant.
Cliciwch y llun isod i ddarllen yr erthygl nesaf sy’n canolbwyntio ar atal salwch a chynnal bywyd hirach: