

Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth yn rhan o dîm a leolir yn Abertawe sydd wedi ymuno â rhwydwaith o 41 o bartneriaid o 30 o wledydd fel rhan o ‘Isadeiledd Ymchwil Iechyd y Boblogaeth’ (PHIRI). Mae PHIRI yn fecanwaith newydd ar gyfer trefnu a rhannu gwybodaeth ynghylch pandemig COVID-19.
Mae’r tîm, sy’n cynnwys HDRUK, SAIL Databank a Chanolfan Iechyd y Boblogaeth, wedi’i arwain gan yr Athro Ronan Lyons ac mae wedi derbyn dros €220,000 o ariannu Horizon 2020 i weithio ar PHIRI, a fydd yn rhedeg am 3 blynedd.
Mae COVID-19 yn broblem drawsffiniol ac yn argyfwng iechyd cyhoeddus a bydd prosiect PHIRI yn gwneud ymagwedd wedi’i chydlynu’n well ar draws Ewrop. Gweledigaeth PHIRI yw sefydlu isadeiledd ymchwil i hwyluso a chreu’r dystiolaeth orau sydd ar gael at ddibenion ymchwil i asesu effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol COVID-19 ar les, clefyd a marwoldeb y boblogaeth.
Amcanion PHIRI
- Bydd yr isadeiledd yn cynnig porth Gwybodaeth Iechyd ar gyfer COVID-19 at ddibenion cyfnewid gwybodaeth ar draws gwledydd yr UE – gan gynnig mynediad at, a defnydd o, ddata COVID-19. Bydd hefyd yn cynnig y gwasanaethau a’r arfau sy’n angenrheidiol i ymchwilwyr allu gysylltu ffynonellau gwahanol o ddata a defnyddio data Ewrop gyfan mewn ffordd sy’n cydymffurfio â GDPR.
- Bydd PHIRI yn cyflwyno cyfnewid a strwythurwyd rhwng gwledydd ar arferion gorau ac arbenigedd COVID-19 drwy rannu gwybodaeth a methodolegau iechyd cyhoeddus a rheoli clinigol, gan ei gwneud hi’n bosib i ymchwilwyr ddarparu gwybodaeth berthnasol sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn barod i’w defnyddio ym maes ymchwil a phrosesau gwneud penderfyniadau.
- Bydd y prosiect hwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau gwybodaeth iechyd drwy gefnogi ymchwilwyr a chyrff iechyd cyhoeddus drwy feithrin gallu a hyfforddiant.
Bydd Fforwm Cyfnewid Cyflym yn ystyried sut i ddarparu ymatebion cyflym i gwestiynau ymchwil a pholisi a godir gan wledydd ynghylch pandemig COVID-19. Bydd y prosiect yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o effeithiau posib COVID-19 ar iechyd yn y dyfodol drwy fodelu senarios ar gyfer sefyllfaoedd cenedlaethol.
Meddai Ronan Lyons, Athro Iechyd y Cyhoedd yn yr Adran Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe:
“Rwyf wrth fy modd bod y tîm yma yng Ngwyddor Data Poblogaethau yn rhai o PHIRI. Ein rôl ni yw arwain wrth fesur effaith COVID-19 ar boblogaethau sy’n agored i niwed gan hefyd werthuso effeithiolrwydd gwrth-fesurau.
Ar draws Ewrop, rhoddwyd llawer o fesurau rheoli a pholisi gwahanol ar waith ar adegau gwahanol yn ystod y pandemig. Mae angen gwybod p’un sy’n gweithio orau. Rydym hefyd yn cydlynu ar ddatblygu systemau i safoni dadansoddi data ar draws Ewrop.
Mae’r math hwn o bartneriaeth yn hollbwysig. Bydd y system gwybodaeth iechyd poblogaethau Ewrop gyfan yn helpu i hwyluso ymatebion sydd wedi’u cydlynu’n well ar lefel yr UE mewn perthynas â phandemig COVID-19, gan ei gwneud hi’n bosib rhannu data a gwybodaeth iechyd a allai lywio gwelliannau o ran ansawdd ym mholisïau ac arferion iechyd gofal cymdeithasol.”
Ariennir Canolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR) gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.