

Gan Dr Michaela James, Ymchwilydd yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Llesiant y Boblogaeth
Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn dweud bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i ddisgwyl bod pobl yn gwrando arnynt ac yn eu cymryd o ddifrif. Mae’n dweud y dylid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am bethau sy’n berthnasol iddyn nhw ac na ddylid eu diystyru ar sail eu hoedran. Ym maes ymchwil, caiff hyn ei ddiystyru’n aml iawn. Rydym ni, fel oedolion, yn credu ein bod ni’n gwybod beth sydd orau. Rydym ni’n credu ein bod ni’n gwybod y meysydd hanfodol i ymchwilio iddynt, y cwestiynau mae angen eu hateb a sut dylem ni gyfleu ein canfyddiadau. Fodd bynnag, dylem ni gynnwys plant a phobl ifanc yn y broses ymchwil.
Yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR), mae ein gwaith ni gyda’r grŵp oedran hwn wedi’i lywio gan ymagwedd sy’n seiliedig ar hawliau, ac mae cyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc wrth ei wraidd. Mae prosiectau ymchwil megis ACTIVE ac RPlace yn amlygu hyn. Gan gynnwys Erthygl 15 (yr hawl i gwrdd a chymdeithasu) ac Erthygl 31 (yr hawl i gymryd rhan a chwarae), mae’r rhain wedi’u llywio gan bobl ifanc o’r dechrau i gyflawni allbynnau.
Dechreuodd y prosiect ACTIVE gyda phobl ifanc yn dweud wrthym ni mai hygyrchedd oedd y prif rwystr i fod yn actif yn gorfforol. Arweiniodd hyn at gyd-gynllunio ymyriad i oresgyn hyn, a phobl ifanc yn derbyn talebau sy’n gwneud gweithgareddau’n bosib ac yn cael cyfle i nodi pa weithgareddau hoffent eu gwneud. O ganlyniad, canfuom ni eu bod nhw am fwy o ddewis o ran gweithgareddau hwyl, distrwythur a chymdeithasol yn eu cymunedau lleol ac, wrth wneud hynny, gallwn ni wella ffitrwydd, iechyd y galon a chymhelliant. Fodd bynnag, dywedodd pobl ifanc wrthym ni fod mynediad i fannau lleol yn dal i fod yn gyfyngedig.
Arweiniodd hyn at ddatblygud RPlace gan y tîm, sef ap ffôn symudol lle gall pobl ifanc roi sgôr i’w mannau lleol ac ysgrifennu adolygiadau amdanynt. Mae pobl ifanc wedi dylunio hwn i bobl ifanc, gan ofyn am adborth ar bob cam o’r datblygiad. Y nod yw dylanwadu ar newid mewn cymunedau lleol drwy ymagwedd gwyddoniaeth dinasyddion, lle bydd pobl ifanc yn casglu ac yn lledaenu canfyddiadau i grwpiau lleol megis y cyngor.
Mae cyd-gynhyrchu bellach yn rhan flaenllaw o’r NCPHWR. Bellach, rydym ni wedi datblygu Cyd-gynhyrchu Ymchwil a Strategaeth (CORDS) a gweithdrefn weithredu safonol (SOP) ar gyfer cyd-gynhyrchu, gan gydnabod na ddylai cyd-gynhyrchu ym maes ymchwil fod yn ymagwedd un ffurf i bawb.
Mae gwerthoedd craidd ymagwedd y ganolfan at gyd-gynhyrchu yn cynnwys:
- Cynhwysiant: Mae pawb yn bwysig ac yn ased. Dylid ystyried profiadau, cefndiroedd, credoau a diwylliannau gwahanol.
- Hyblygrwydd: Golyga hyn groesawu natur anniben gweithio mewn systemau gwahanol a gallu addasu a newid ymagweddau lle mae angen, ar sail dyheadau ac anghenion y grŵp o ddefnyddwyr.
- Dilysrwydd: Mae’r broses yn ddilys, ac mae pawb yn elwa o gymryd rhan. Mae’n integredig ac wedi’i wreiddio yn y broses ymchwil.
- Adfyfyrio:Gallu adfyfyrio, mireinio ac ailadrodd. Cydnabod nad chi yw’r arbenigwr a bod bob amser rhywbeth i’w ddysgu.
Egwyddorion Allweddol Cyd-gynhyrchu drwy CORDS
Nid ein nod ni yw cynnig canllaw cyflawn. Yn hytrach, nod y Weithdrefn Weithredu Safonol yw rhoi rhywfaint o eglurdeb ar sail tystiolaeth ac enghreifftiau o brosiectau blaenorol a gyd-gynhyrchwyd gan aelodau’r cyhoedd ac a ddatblygwyd gan ymchwilwyr NCPHWR. Rydym ni’n amlygu y gall cyd-gynhyrchu ddigwydd ar unrhyw gam o’r ymchwil. Er enghraifft, yn ddiweddar, rydym ni wedi datblygu arolwg i archwilio profiadau pobl ifanc o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a sut yr hoffent gael eu cefnogi. Mae pobl ifanc wedi bod yn rhan o helpu i hysbysebu’r arolwg drwy ein helpu ni i ddatblygu hysbyseb ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a chynnig adborth ar ffyrdd o wneud yr arolwg yn gynhwysol ac yn ddiddorol i’w grŵp oedran. Felly, gall cyd-gynhyrchu ddigwydd o’r dechrau. Neu, fel ACTIVE, gall cyd-gynhyrchu helpu i greu camau nesaf y prosiectau a chyfeiriad yn y dyfodol.
Yr hyn sy’n hanfodol yw bod yn rhaid i gyd-gynhyrchu fod yn ddilys. Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff pobl ifanc eu cynrychioli’n llawn, a bod y pwrpas yn glir. Mae’r tîm ymchwil yn sicrhau bod safbwyntiau, profiadau, sgiliau a gwybodaeth wahanol yn cael eu cynnwys yn y broses. Dylid gwerthfawrogi amser a chyfraniadau pawb fel y gall pawb elwa o weithio gyda’i gilydd.
Pobl ifanc yw’r arbenigwyr mewn materion sy’n effeithio arnynt, a dylem ni roi llais iddyn nhw.
Ymddangosodd yr erthygl hon yn Rhifyn y Gaeaf o Gylchgrawn Plant yng Nghymru. Gweld neu lawrlwytho Rhifyn y Gaeaf yma.