

Mae Dr Emily Marchant, Ymchwilydd Datblygiad Iach yn y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth, yn un o chwe derbynnydd llwyddiannus i dderbyn Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol yr ESRC yn 2021 drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru’r ESRC (DTP Cymru).
Mae’r Cymrodoriaethau ar gyfer y rhai hynny sydd ar y cam yn syth ar ôl y radd ôl-ddoethurol yn eu gyrfaoedd er mwyn iddynt gael y cyfle i atgyfnerthu eu PhD drwy ddatblygu cyhoeddiadau, rhwydweithiau a’u sgiliau ymchwil a phroffesiynol.
Dyfarnwyd y Gymrodoriaeth i Dr Marchant er mwyn archwilio adferiad ysgolion ar ôl COVID-19. Bydd gwaith ymchwil Dr Marchant yn datblygu ac yn ehangu ar Rwydwaith Ysgolion Cynradd Cymru HAPPEN ac yn cryfhau partneriaethau a chysylltiadau rhyngwladol.
Wrth dderbyn y dyfarniad, meddai Dr Marchant:
Rwyf mor falch o dderbyn Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol yr ESRC drwy DTP Cymru. Mae’r Gymrodoriaeth hon yn rhoi’r cyfle i mi barhau ac adeiladu ar fy ymchwil ddoethurol a datblygu rhwydwaith ysgolion cynradd Cymru HAPPEN. Bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn gyfnod pwysig i ysgolion, felly mae amseru’r Gymrodoriaeth hon yn cynnig posibiliadau i gryfhau partneriaethau a nodi blaenoriaethau ar y cyd i gefnogi ysgolion yn y dirwedd addysg ôl-COVID.
Am flwyddyn, gan ddechrau ym mis Hydref 2021, bydd Dr Marchant yn cael ei mentora gan Dr Lucy Griffiths a’r Athro Tom Crick.
Meddai Dr Lucy Griffiths:
Rwy’n siŵr y bydd Emily’n gwneud yn fawr o’r cyfle gwych hwn i atgyfnerthu ei gwaith ymchwil a’i henw yn y maes – mae’n gynllun cystadleuol ac mae’r dyfarniad yn gwbl haeddiannol.
Meddai’r Athro Tom Crick:
“Rwyf wrth fy modd bod gwaith diweddar a photensial ymchwil Emily wedi cael eu cydnabod gyda’r Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol hon gan yr ESRC. Mae ei phrosiect rhyngddisgyblaethol arfaethedig yn amserol ac yn bwysig i Gymru, yn enwedig wrth i ni ystyried effaith tymor hwy COVID-19 ar ysgolion a dysgwyr, yn ogystal â’r tirlun addysg ehangach yng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd i Gymru a diwygiadau sylweddol ar lefel systemau”.
Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth:
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad wrth ddatblygu iechyd y boblogaeth. Rydym yn ymrwymedig i ddilyniant ein hymchwilwyr gyrfa gynnar a thrwy ein cymorth parhaus i’r ymchwil o’r safon uchaf.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am dîm y Ganolfan Ymchwil i Iechyd y Boblogaeth.
Ariennir y Ganolfan Genedlaethol i Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.