

Cyflwynodd ymchwilwyr o Ganolfan Iechyd y Boblogaeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru eu hastudiaeth achos o brydau ysgol yng Nghymru yn ystod digwyddiad lansio yn Llundain. Yn y digwyddiad a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd, cyflwynodd cynrychiolwyr o bob un o bedair cenedl ddatganoledig y DU statws presennol prydau ysgol. Trefnwyd y digwyddiad gan y Research Consortium for School Health & Nutrition a Rhaglen Fwyd y Byd (y DU) er mwyn llywio a chefnogi darpariaeth prydau ysgol am ddim.
Arweiniodd yr Athro Sinead Brophy a Dr Katherine Wooley y gwaith o lunio astudiaeth achos o’r system prydau ysgol yng Nghymru. Mae’r astudiaeth achos yng Nghymru’n rhan o astudiaeth ledled y DU sy’n cynnwys rhaglenni prydau ysgol y cenhedloedd datganoledig.
Llyfrgell fyd-eang o astudiaethau achos
Bydd astudiaethau achos y DU hefyd yn cyfrannu at lyfrgell fyd-eang o astudiaethau achos a ddatblygwyd i’r School Meals Coalition. Mae’r Research Consortium for School Health & Nutrition yn hwyluso’r cydweithrediad rhwng partneriaid academaidd, ymchwil a datblygu i lenwi’r bwlch gwybodaeth o ran iechyd a maeth mewn ysgolion a chreu sylfaen dystiolaeth i lywio llunwyr polisi a’r rhai sy’n rhoi rhaglenni ar waith
Y sefyllfa bresennol yng Nghymru
Yn 2018, dechreuodd Llywodraeth Cymru adolygu’r polisi prydau ysgol am ddim o ganlyniad i’r gydnabyddiaeth nad oedd y polisi presennol yn diwallu anghenion yr holl blant mewn tlodi incwm cymharol. O fis Medi 2022, cyflwynir prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, gan ddechrau gyda’r rhai ifancaf. Erbyn 2024, bydd pob plentyn o oedran ysgol gynradd yn derbyn prydau ysgol am ddim.
Mae’r astudiaeth achos yn rhoi trosolwg o boblogaeth Cymru ac economeg, addysg a’r broses o roi’r rhaglen prydau ysgol ar waith mewn ysgolion yn y wlad. Yn ogystal, mae’n tanlinellu’r heriau gweinyddol a’r heriau i isadeiledd a chadwyn gyflenwi ysgolion a’r stigma i ddisgyblion sy’n gysylltiedig â derbyn prydau ysgol am ddim.
Prosiect parhaus
Bydd y Ganolfan yn parhau i weithio gyda phartneriaid o genhedloedd datganoledig eraill a rhai byd-eang ar drawsddysgu a rhannu gwybodaeth. Bydd ymchwilwyr yn ceisio gwerthuso’r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim a’r buddion i iechyd a lles plant.
Er mwyn cyflawni’r ymchwil hon, bydd y Ganolfan yn gweithio gyda sefydliadau a rhwydweithiau eraill, megis y rhwydwaith ysgolion cynradd HAPPEN a’r rhwydwaith prydau ysgol GENIUS er mwyn cyrchu a chasglu gwybodaeth gan ysgolion ledled Cymru.
Meddai’r Athro D.A.P. Bundy, o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain: “Mae datblygu’r astudiaeth achos o brydau ysgol yn y DU yn gam cyntaf hollbwysig i’r Research Consortium for School Health and Nutrition yn ein hymdrechion i gofnodi enghreifftiau o arfer gorau mewn rhaglenni prydau ysgol cenedlaethol o bedwar ban byd.
Drwy ymgysylltu ag arbenigwyr blaenllaw o bob un o bedair cenedl ddatganoledig y DU, rydyn ni wedi llwyddo i ddatblygu proffil cyd-destunol sensitif o sefyllfa bresennol prydau ysgol ledled y Deyrnas Unedig, gan ddangos cryfder y rhaglen, yn ogystal â’r meysydd lle gall cenhedloedd ddysgu gwersi oddi wrth ei gilydd.
Wrth i ni barhau i gofnodi rhaglenni enghreifftiol o wledydd y School Meals Coalition a’r tu hwnt, rydyn ni’n gobeithio creu catalog o astudiaethau achos o gyfandiroedd gwahanol sy’n gallu cynorthwyo gwledydd wrth greu neu ehangu eu rhaglenni cenedlaethol eu hunain.”
Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth: “Mae’r blynyddoedd cynnar yn allweddol i holl feysydd dysgu a datblygu plentyn. Gall mynediad at brydau ysgol maethol am ddim helpu i leihau anghydraddoldebau a sicrhau bod plant, yn enwedig y rhai o deuluoedd incwm is, yn gallu derbyn pryd o fwyd iach bob dydd.
Fel tîm, bydd ein hymchwilwyr a’n dadansoddwyr data’n casglu data a barn ac yn gwerthuso’r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim a’r effaith ar iechyd a lles plant ysgolion cynradd yng Nghymru.
Bydd cyfranogi yn y School Meals Coalition yn ein galluogi i rannu canfyddiadau, gwybodaeth ac arfer gorau ag ymchwilwyr eraill o’r DU ac yn fyd-eang. Mae’r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn llywio penderfyniadau ar iechyd a maeth mewn ysgolion sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Darllenwch a lawrlwytho’r papur School Food Case Study: Wales
Darllenwch a lawrlwytho’r fersiwn gryno Case Study of UK School Meals: Summary