

Mae plant sy’n iau yn y flwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael eu trin ar gyfer Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), sy’n awgrymu y gallai anaeddfedrwydd ddylanwadu ar ddiagnosis, yn ôl astudiaeth newydd dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Glasgow.
Nod yr astudiaeth oedd ymchwilio i’r cysylltiad rhwng oedran ac ADHD, gan ymchwilwyr a fu’n cysylltu data iechyd ac addysg o’r Alban (poblogaeth: 5.4 miliwn) a Chymru (poblogaeth: 3.1 miliwn).
Astudiaeth o 1,063,256 o blant ysgol
Aeth y tîm ymchwil ati i archwilio effaith dal plant yn ôl ac a yw hyblygrwydd ynghylch dyddiadau dechrau ysgol yn cuddio neu’n lleihau effaith oedran cymharol.
Lluniwyd cysylltiad dienw rhwng cofnodion addysg ac iechyd 1,063,256 o blant ysgol gynradd ac uwchradd yn yr Alban (2009-2013) ac yng Nghymru (2009-2016) – er mwyn galluogi’r tîm ymchwil i archwilio’r berthynas rhwng oedran yn y flwyddyn ysgol a thriniaeth ADHD. Roedd y gwaith ymchwil yn gwneud iawn am y plant hynny a gafodd eu dal yn ôl, ac am y ffaith mai’r terfyn dyddiad geni ar gyfer mynediad i’r ysgol yw 1 Mawrth yn yr Alban a 1 Medi yng Nghymru.
Mae canfyddiadau allweddol yr astudiaeth yn datgelu:
- At ei gilydd, roedd 8,721 (0.87%) o blant yn yr astudiaeth yn cael eu trin ar gyfer ADHD (0.84% yn yr Alban a 0.96% yng Nghymru).
- Roedd y plant ieuengaf yn eu dosbarth yn fwy tebygol o gael diagnosis o ADHD.
- Cafodd mwy o blant eu dal yn ôl yn yr Alban (7.66%) nag yng Nghymru (0.78%).
- Roedd plant a oedd yn cael eu dal yn ôl yn fwy tebygol o fod yn fechgyn, yn gefnog, wedi’u geni’n gynnar ac â phwysau isel adeg geni, ac yn llai tebygol o fod wedi’u geni drwy doriad Cesaraidd neu fod â mamau a oedd yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd.
- Roedd plant a gafodd eu dal yn ôl yn fwy tebygol o fod wedi cael eu trin ar gyfer ADHD, a byddai 81.18% o blant a gafodd eu dal yn ôl wedi bod yr ieuengaf yn eu blwyddyn.
- Roedd nifer yr achosion o ADHD yn uwch ymhlith bechgyn, ac yn cynyddu gydag amddifadedd, mamau’n ysmygu yn ystod beichiogrwydd, mamau iau, pwysau adeg geni a sgôr APGAR (yn seiliedig ar wiriadau iechyd a roddir i fabanod adeg eu geni).
Dywedodd Michael Fleming, y cyd-awdur cyntaf o Brifysgol Glasgow:
“Datgelodd ein canfyddiadau fod plant sy’n iau yn y flwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael eu trin ar gyfer ADHD, sy’n awgrymu y gallai anaeddfedrwydd ddylanwadu ar ddiagnosis. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y duedd hon yn cael ei chuddio mewn gwledydd sydd â pholisïau dyddiad cychwyn hyblyg lle mae plant iau sydd â phroblemau sylw neu ymddygiad yn fwy tebygol o gael eu dal yn ôl flwyddyn. Nid yw’n ymddangos bod dal plant yn ôl yn gwrthdroi’r angen am feddyginiaeth ADHD. Mae’n bosibl, serch hynny, y gallai dal plant ag ADHD yn ôl wella canlyniadau eraill.”
Ychwanegodd Amrita Bandyopadhyay, y cyd-awdur cyntaf o Brifysgol Abertawe:
“Dylai clinigwyr sy’n asesu neu’n trin plant a phobl ifanc ar gyfer ADHD fod yn ymwybodol, beth bynnag fo’r dyddiad terfyn ar gyfer mynediad i’r ysgol, fod plant sy’n iau yn eu blwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael eu trin ar gyfer ADHD. Fodd bynnag, gallai’r duedd hon gael ei chuddio mewn gwledydd sydd â pholisïau dyddiad cychwyn hyblyg lle mae plant iau sydd â phroblemau sylw neu ymddygiad yn fwy tebygol o gael eu dal yn ôl flwyddyn os yw’r athrawon a’r rhieni’n cytuno bod hyn er lles pennaf y plentyn.”
Darllen yr erthygl lawn yn BMC Public Health
Noddwyd rhan yr Alban o’r astudiaeth gan Health Data Research UK. Cefnogwyd ymchwil Cymru gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR).