

Date: 3 Hydref 2018
Y Plentyn Cyfan: Pwysigrwydd gwneud pethau’n iawn
Mae plant yn gallu dioddef ansicrwydd, adfyd, tlodi a thrawma. Mae’r gallu i ymaddasu’n dda, ymdopi’n well a ffynnu er gwaetha’r heriau hyn yn agwedd hanfodol ar eu bywydau.
Bydd Cynhadledd Bord Gron Flynyddol Plant yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd i ystyried ymchwil ac arfer cyfredol sy’n mabwysiadu ymagwedd ‘plentyn cyfan’ at wella cydnerthedd yn ystod plentyndod.
Siaradwyr sydd wedi eu cadarnhau:
Mae’n bleser gan Plant yng Nghymru gyhoeddi y bydd Huw Irranca-Davies AC, Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol yn siarad yn y gynhadledd.
Bydd cadarnhad o’r siaradwyr eraill ar gael cyn bo hir.
Pwy ddylai fynychu?
Gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a’u teuluoedd a’r sawl sy’n arwain polisi neu sydd â diddordeb mewn cydnerthedd a llesiant plentyndod. Bydd y gynhadledd yn berthnasol i bob sector sy’n ymwneud â phlant a’u teuluoedd, gan gynnwys y trydydd sector a’r sector statudol.
Cefnogir Cynhadledd Flynyddol Plant yng Nghymru gan NCPHWR