

Manteisiodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr o Gymru gyfan ar y cyfle i rwydweithio, i rannu syniadau ac i glywed gan siaradwyr gwadd yng Nghynhadledd Iechyd Poblogaeth Cymru a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2019. Roedd cynadleddwyr yn cynnwys academyddion, clinigwyr, gweithwyr cymdeithasol, partneriaid diwydiannol a myfyrwyr yn rhan o ddiwrnod llawn trafodaethau ysgogol a gweithdai adeiladol.
Dangosodd y gynhadledd ehangder yr ymchwil a gynhelir ledled Cymru, gan rannu mewnwelediadau newydd sy’n cynnig sylfaen dystiolaeth gadarn i lywio polisi, ymarfer a darpariaeth.
Dechreuodd y diwrnod gyda gair gan yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr NCPHWR, gan groesawu pawb i’r gynhadledd a thynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio ym maes ymchwil gofal iechyd.
Y siaradwr gwadd cyntaf oedd yr Athro Richard Owen o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe. Rhoddodd yr Athro Owen gipolwg diddorol ar Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Wedi hynny, canolbwyntiodd sesiynau’r bore ar ‘Ddatblygiad Iach’ gyda chyflwyniadau gan:
- Michaela James, NCPHWR – ‘How children and young people inform what we do’
- Dr Margaid Williams, Y Ganolfan Ymyriadau Cynnar yn Seiliedig ar Dystiolaeth, Prifysgol Bangor – ‘Parenting interventions – investing in children’s futures’
- Emily Lowthian, DECIPHeR – ‘Understanding the secondary effects of parental substance use on children’s educational outcomes.
Yna rhannodd y cynadleddwyr i grwpiau ymneilltuo i drafod y cyfleoedd i gydweithio a’r heriau o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y blynyddoedd cynnar.
Ar ôl cinio, clywodd cynadleddwyr gan y siaradwr gwadd Dr Alisha Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cyflwynodd Dr Davies ar y pwnc ‘Employment, fair work and health – the potential in data’.
Siaradwr gwadd: Dr Alisha Davies, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Canolbwyntiodd sesiynau’r prynhawn ar ‘Fywyd Gwaith Iachus’ gyda chyflwyniadau gan:
- Yr Athro Ernest Choy, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd – ‘Reducing health and societal impact of inflammatory arthritis’
- Dr Foteini Tseliou, Doeth am Iechyd Cymru – ‘Using population health research to improve public health’
- Dr Amy Murray, CADR – ‘Driving cessation in later life – making the links with healthy working lives’
Daeth y diwrnod i ben gyda thrafodaeth fywiog am yr heriau o wella bywyd gwaith.
Meddai Sam Dredge, Rheolwr Rhaglen ar gyfer NCPHWR am y diwrnod: “Nod y gynhadledd oedd cynnig llwyfan a chyfle i rannu canfyddiadau ymchwil, ennyn trafodaethau a meithrin cydweithrediadau ymchwil ar gyfer y dyfodol, a dangos ehangder yr ymchwil ym maes iechyd y boblogaeth a gynhelir ledled Cymru.
Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr NCPHWR: “Mae cydweithio’n allweddol i’r hyn a wnawn – ein nod yw dod â phobl o sector iechyd a gofal Cymru at ei gilydd i drafod yr heriau y mae Cymru’n eu hwynebu nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”