

Cafodd crynodebau a dderbyniwyd i’w cyflwyno yng Nghynhadledd Cydweithredu Rhyngwladol ar Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth 2022 eu cyhoeddi mewn rhifyn arbennig o International Journal of Population Data Science (IJPDS).
Mae Canolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth wedi croesawu ymchwilwyr o bedwar ban byd yn y gynhadledd a gynhaliwyd ym mis Chwefror eleni. Rhoddodd y gynhadledd, a fynychwyd gan 200 o gynadleddwyr o 20 o wledydd, gyfle i rannu gwybodaeth, datblygu gwaith ar y cyd a hwyluso ymchwil rhwng y cenhedloedd.
Roedd y rhaglen gyffrous a deinamig hon yn canolbwyntio ar iechyd y boblogaeth gyda ffrydiau pwrpasol a oedd yn amrywio o iechyd mamau a phlant i ysgolion ac addysg, gwerthuso arbrofion naturiol, heneiddio’n iach, cyflyrau cronig a morbidrwydd. Heneiddio’n iach, cyflyrau cronig a morbidrwydd.
Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan mewn cydweithio yn dilyn y gynhadledd, ymunwch/ymwelwch â’r grŵp ar y platfform Crowd, sef platfform ar-lein newydd ar gyfer y gymuned gwyddor data poblogaethau fyd-eang.
Cafodd y gynhadledd, a drefnwyd gan Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.