Yn gyffredinol, bydd y gwaith o ragweld lledaeniad COVID yn cael ei seilio ar arolygon ar gyfer oedolion. Ein hamcan oedd ymchwilio i nifer y bobl y bydd pobl ifanc yn rhoi gwybod iddyn nhw ddod i gysylltiad â nhw, canfod eu barn nhw ynghylch pa mor fanwl-gywir yw hunanadrodd a chanfod beth yw eu barn nhw am y camau a gymerir i atal lledaeniad COVID.
Y CYSYLLTIADAU
O blith y 300 cyntaf o bobl ifanc y gofynnwyd iddyn nhw (60% o dan 16 oed a 40% yn fwy nag 16 oed) rhoddodd bron i 25% wybod eu bod wedi cael 2 neu fwy o gysylltiadau wyneb yn wyneb ac uniongyrchol bob dydd. Ond rhoddodd mwy na hanner ohonyn nhw wybod eu bod wedi cael llai nag 1 cysylltiad. Yn yr ysgol y bydd y bobl ifanc â nifer uchaf y cysylltiadau a bydd y rheiny â’r nifer lleiaf o gysylltiadau yn digwydd yn y Brifysgol. Yn ôl adborth gan fyfyrwyr prifysgol, rhoddodd bron i 60% ohonyn nhw wybod na ddaethon nhw i gysylltiad ag unrhyw un o gwbl yn ystod y diwrnod blaenorol.
O’r bobl hynny a oedd wedi rhoi gwybod eu bod wedi dod i gysylltiad uniongyrchol â mwy na 2 o bobl, rhoddodd mwy nag 80% wybod eu bod yn gwisgo mwgwd. O blith yr holl bobl ifanc y gofynnwyd iddyn nhw, roedd 6/10 o’r farn eu bod yn gallu cofio’n union pwy roedden nhw wedi cwrdd â nhw.
EFFAITH COVID
Y TEULU/FFRINDIAU
Roedd tri chwarter y bobl ifanc o’r farn bod COVID wedi effeithio ar iechyd eu meddwl. Nodwyd bod iechyd eu teulu a’u ffrindiau yn bryder;
“…Rwy’n pryderu’n fawr y bydd fy anwyliaid yn cael y coronafeirws ac yn mynd yn ddifrifol wael neu’n marw.” (Myfyriwr yn y Brifysgol)
“Bu farw cefnder imi o ganser yn 29 oed a doedden ni ddim yn gallu’i weld e yn ystod ei wythnosau olaf” (Disgybl ym Mlwyddyn 13)
Yn ogystal â’r diffyg cefnogaeth maen nhw’n ei gael o ganlyniad i’r hunanynysu;
“Mae wedi bod yn gyfnod mwy unig. Alla i ddim gweld fy ffrindiau, fy nheulu na’r bobl rwy’n eu caru ac mae’r straen o geisio dilyn pob un o’r rheolau a’r cyfyngiadau’n anodd…” (Disgybl ym Mlwyddyn 10)
ADDYSG
Trafodwyd hefyd faterion ynghlwm wrth iechyd meddwl yng nghyd-destun addysg, pwysau oherwydd arholiadau ac amryw o bryderon a mathau o straen cysylltiedig. Rhoddodd mwy na 50% wybod eu bod o’r farn bod COVID wedi effeithio’n sylweddol ar eu haddysg;
“Dw i ddim o’r farn fy mod i’n dysgu.” (Myfyrwraig yn y Brifysgol)
“Mae’n rhaid imi fy addysgu fy hun ac felly dw i ddim yn gwybod go iawn a oeddwn wedi’i wneud yn iawn.” (Disgybl ym Mlwyddyn 11)
Roedd y gwahaniaeth yn y gefnogaeth rhwng addysgu wyneb yn wyneb ac addysgu arlein yn thema gyffredin ac roedd pobl ifanc wedi nodi nad ydyn nhw o’r farn eu bod yn gwneud cynnydd.
Roedd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn yr ysgol eisiau “dileu’r arholiadau yn 2021” gan y byddai hyn yn cael gwared â rhywfaint o’r ansicrwydd ac yn rhoi rhywfaint o eglurder ynghylch y dyfodol.
Roedd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn y brifysgol eisiau rhagor o gefnogaeth ariannol a ffioedd is;
“Roeddwn i’n pryderu a fyddwn i’n gallu ariannu fy hun a’u cyngor oedd cymryd arian yn fenthyg, sy’n beth anghyfrifol.” (Myfyriwr yn y Brifysgol)
LLES
O ystyried y canfyddiadau uchod, nid yw’n syndod bod y rhan fwyaf o bobl ifanc wedi rhoi gwybod eu bod yn teimlo’n llai hapus yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mae rhai, serch hynny, yn rhoi gwybod eu bod yn teimlo rywfaint yn hapusach:
“Rwy wedi cael amser i ymlacio.” (Disgybl ym Mlwyddyn 12)
Ac roedd 32% o’r farn na fyddai’r pandemig yn effeithio ar eu cyfleoedd mewn bywyd.
TEIMLADAU CYFFREDINOL
Roedd pobl ifanc hefyd o’r farn nad oedden nhw wedi cael eu cynnwys yn y penderfyniadau a’r trafodaethau ynghylch sut y bydd covid yn effeithio arnyn nhw. Maen nh eisiau rhagor o gyfleoedd i fwydo i mewn i’r trafodaethau hyn:
“Mae gyda ni lais ac rydyn ni eisiau diogelu ein hunain, ond maen nhw’n dweud wrthon ni na ddylen ni orchuddio’n hwyneb mewn dosbarthiadau ysgol.” (Disgybl ym Mlwyddyn 8)
“…gallai’r llywodraeth wrando arnon ni am unwaith” (Disgybl ym Mlwyddyn 8)
Cysylltwch â Michaela James am ragor o wybodaeth: m.l.james@swansea.ac.uk
Neu cysylltwch â’r Athro Sinead Brophy: s.brophy@swansea.ac.uk