

Dyddiad: 8 -9 Tachwedd 2018
Neuadd y Ddinas Caerdydd
10 am – 16.45pm
Nod Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru yw gyrru sgyrsiau sy’n cynnwys pob rhan o gymdeithas yng Nghymru, sy’n cwmpasu’r sbectrwm llawn o ddisgyblaethau iechyd cyhoeddus i weld beth allwn ni ei wneud i newid ein cenedl gyda’i gilydd.
Er mwyn cyrraedd ein potensial fel cenedl, mae angen inni edrych ar blociau adeiladu iechyd a lles i’n teulu, ein ffrindiau a’n cymunedau. Mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw’r gwasanaethau iechyd a gofal yn unig yn ddigon i wella iechyd a lles y genedl. Yn hytrach, mae angen inni edrych ar y ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach – o fewn a thu hwnt i’n ffiniau – sy’n dylanwadu ar iechyd, lles ac anghydraddoldebau.
Mae ‘Planed Iach, Cymru Iach’ yn gyfle i gyfranogwyr ar draws ystod eang o sectorau ganolbwyntio ar yrwyr iechyd a lles sy’n mynd y tu hwnt i ofal iechyd, i gynnwys amgylchedd iach, cymdeithas iach, economi iach a chymuned iach.
Bydd y gynhadledd yn darparu awyrgylch lle gall cynrychiolwyr brofi, meddwl, rhwydweithio, trafod, creu a rhannu atebion. Byddwn yn adeiladu ar y fformatau a arbrofwyd y llynedd, gan gymryd y thema a’r profiad gam ymlaen eto.
Mae lleisiau a mewnbwn gan bob sector – iechyd, tai, addysg, gofal cymdeithasol, diwylliant, treftadaeth, technoleg, busnes a’r trydydd sector – yn hanfodol er mwyn sicrhau iechyd a lles cynaliadwy, gweithio traws-sector a meddwl mewn partneriaeth. Felly rydym yn croesawu cyfranogiad gan bawb ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld yno.
Mae’r dewis o leoliad ar gyfer y gynhadledd eleni yn cefnogi ein thema cynaliadwyedd. Mae lleoliad canolog Neuadd y Ddinas ei ei wneud o fewn pellter cerdded i dair gorsaf drenau a llawer o lwybrau bysiau, ac mae gorsaf llogi beiciau nextbike y tu allan i’r adeilad. Bydd y bwyd fydd yn cael ei weini i’r cynadleddwyr yn y gynhadledd yn iach ac o ffynonellau cynaliadwy. Mae cofrestru ar gyfer y gynhadledd bellach ar agor – felly peidiwch ag oedi, a pheidiwch â cholli eich lle! I drefnu mynychu, ewch i www.cicc.cymru