

Datblygu’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Blog GOV.UK
Cydnabuwyd ers tro fod ysgolion yn rhywle sy’n bwysig i wella iechyd pobl ifanc a cheir mwyfwy o dystiolaeth o ‘effeithiau’r ysgol’ ar iechyd. Fodd bynnag, mae parodrwydd ysgolion i neilltuo amser a rhoi pwyslais ar iechyd yn amrywio, a hyd yn oed pan fydd ysgolion yn neilltuo adnoddau at ddibenion iechyd, prin yw’r dystiolaeth ar y camau gweithredu mwyaf effeithiol a chynaliadwy.
Mae ysgolion, llunwyr polisi ym maes iechyd ac addysg, ymarferwyr ac academyddion wedi dod ynghyd yng Nghymru i fynd i’r afael â hyn drwy sefydlu’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion cenedlaethol cyntaf.