

Mae Dr Alisha Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, wedi cael ei hurddo’n Athro Er Anrhydedd gan Gyfadran y Gwyddorau Iechyd a Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe am ei gwaith ym maes iechyd y boblogaeth.
Mae Alisha yn Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus ac yn Bennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn y Gyfarwyddiaeth Wybodaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ei rôl fel Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, mae Alisha’n gweithio gyda’r Bwrdd Gweithredol i ddatblygu a gweithredu strategaeth, polisi a rhaglen weithredu’r Ganolfan.
Bob blwyddyn mae Prifysgol Abertawe’n cyflwyno Dyfarniadau Er Anrhydedd i unigolion i gydnabod cyflawniad neilltuol yn y Brifysgol neu’r rhanbarth. Mae cydweithrediadau diweddar yr Athro Davies gyda Phrifysgol Abertawe wedi arwain at nifer o ddyfarniadau grantiau ymchwil llwyddiannus sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio data cysylltiol i greu dealltwriaeth sy’n llywio polisi ac ymarfer ar draws ystod eang o feysydd perthnasol i iechyd y boblogaeth.

Dr Alisha Davies yn cael ei hurddo’n Athro Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe
Dyma a ddywedodd yr Athro Davies, “Mae’n anrhydedd ac yn fraint derbyn y dyfarniad Athro Er Anrhydedd hwn. Rwy yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Chyfadran y Gwyddorau Iechyd a Bywyd, eu helpu nhw i ddatblygu rhagor o grantiau, cydweithrediadau a datblygiadau o ran iechyd y boblogaeth i fynd i’r afael â rhai o’r heriau iechyd a gofal mwyaf dybryd.”
Yn ddiweddar, bu’r Athro Davies yn arwain Grant y Sefydliad Iechyd gyda Phrifysgol Abertawe, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu Labordy Data Rhwydweithiol Cymru i archwilio effaith COVID-19 ar gleifion sy’n ynysu, a bellach anghydraddoldebau yn iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae’n gweithio i ddatblygu themâu newydd sy’n dod i’r amlwg megis cyflogaeth ac iechyd ac i gynnwys data ar ffermio ar draws y pedair cenedl gyda’r Ganolfan Data Gweinyddol. Am gyhoeddiadau diweddar gan yr Athro Davies, gweler yma.