

Mae’r lleoedd a’r cymunedau lle rydym yn byw yn chwarae rôl bwysig yn ein hiechyd corfforol. Mae’r hyn sydd ar garreg drws yn bwysig i ysgogi – neu atal – ein lefelau o weithgarwch corfforol.
Mae hyn yn enwedig o berthnasol i bobl ifanc, sydd â llai o allu i deithio y tu allan i’r gymuned lle maent yn byw. O gofio y gall bod yn actif yn ystod plentyndod a glaslencyndod effeithio ar ein hiechyd hyd yn oed pan fyddwn yn oedolion, mae’n bwysig y gall arddegwyr wneud ymarfer corff yn agos i’w cartrefi.