Cyfranogiad Cleifion a’r Cyhoedd
Mae cyfranogiad y cyhoedd yn allweddol i gynhyrchu ymchwil sy’n berthnasol i anghenion a phryderon pobl sy’n byw ledled Cymru. O ganlyniad, bydd aelodau o’r cyhoedd yn rhan o bob agwedd ar waith y Ganolfan, er enghraifft, drwy helpu i lywio’r agenda ymchwil a gweithio gyda Grwpiau Datblygu Ymchwil, a chynghori ar ddyluniadau astudiaethau a chynyddu ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd.

Sarah Peddle
Rwyf wedi datblygu nifer fawr o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad drwy gydol fy ngyrfa, ac rwyf yn mwynhau fy rolau mewn cyfranogiad yn fawr iawn gan eu bod yn fy ngalluogi i i ddefnyddio fy sgiliau wrth gyfrannu at faes sydd o ddiddordeb i mi, gyda’r nod o gynnig budd i’r gymdeithas ehangach yn y pen draw. Mae gennyf ddau o blant, ac mae hyn ar y cyd â chyflwr iechyd cronig wedi fy mherswadio i roi’r gorau i weithio amser llawn am y tro, gan gynnig y gallu a’r cyfle i mi ymgymryd â’r rolau hyn.
Rwyf yn awyddus i ddefnyddio’r profiad sydd gennyf, gan fy mod i wedi bod yn gyfrifol am reoli data, gwybodaeth, cynllunio a rheoli perfformiad, ymysg pethau eraill, y maent yn berthnasol ac yn werthfawr mewn rolau cyfranogiad cyhoeddus ehangach yn fy marn i. Rwyf wrth fy modd i fod yn aelod lleyg gyda’r Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth, fel rhan o’r Grŵp Ymgynghorol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a’r Pwyllgor Llywio Cyfranogiad Cyhoeddus.

Dr Helen Davies

Dr Rachael Hunter

Samanta Gudziunaite
“Ar ôl bod ar ochr arall grwpiau PPI yn y gorffennol, roeddwn am weld a oedd ffordd y gallwn helpu drwy gyfrannu fy mhrofiadau. Rwy’n gredwr cryf y dylai’r holl waith ymchwil gynnwys pobl yr ydych yn gwneud y gwaith ymchwil ar eu cyfer! Gwnaeth siaradwr gwadd yn un o’m cyn brifysgolion ddweud, ‘nothing about us, without us!’, a hyd heddiw rwy’n credu’n gryf yn y geiriau hyn. Mae grwpiau PPI yn ffordd wych o gymryd rhan gyda’ch grŵp ymchwil lleol”.
Cysylltwch â ni
Os hoffech wybod mwy neu i gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr, cysylltwch â Soo Vinnicombe, Arweinydd PPI drwy e-bostio s.vinnicombe@bangor.ac.uk
Bwriedir y dudalen hon ar gyfer cleifion ac aelodau o’r cyhoedd. Os ydych yn ymchwilydd neu’n sefydliad sydd ag ymholiad, ewch i’n tudalen ‘Gweithio Gyda Ni?’ am ragor o fanylion. Nod digwyddiadau a gweithdai yw hwyluso ymchwil a datblygu cydweithrediadau newydd ac fe’u cynhelir drwy gydol y flwyddyn. Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau am yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithdai sydd ar ddod.
Canllaw newydd i gyd-gynhyrchu a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn y Ganolfan – CORDS
Mae CORDS yn ganllaw newydd wedi’i ddatblygu gan y tîm yn y Ganolfan. Ei nod yw darparu eglurder ar sail tystiolaeth ac enghreifftiau o brosiectau blaenorol wedi’u cyd-gynhyrchu gan aelodau’r cyhoedd a ddatblygwyd gan Ganolfan Iechyd y Boblogaeth. Mae’r canllaw hwn i arferion gorau yn cydnabod na ddylai cydgynhyrchu ym maes ymchwil fod yn ymagwedd ‘un ateb i bopeth’.
Mae’r grŵp PPI Ganwyd yng Nghymru wedi bod yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r Ganolfan ar sut i ymgysylltu orau â theuluoedd BAME. Mae’r prosiect Ganwyd yng Nghymru yn archwiliad parhaus i brofiadau a chanlyniadau pobl sy’n cael babanod yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Astudiaeth Achos Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd – Grŵp PPI Ganed yng Nghymru
Dyma Hope Jones, Ymchwilydd yn y Ganolfan Iechyd Cyhoeddus (CPH), yn siarad ag aelodau o’r Grŵp PPI, Ganwyd yng Nghymru, am sut i ymgysylltu â’n cymunedau orau.
Cafodd y fideo hwn ei gyflwyno yn Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar y thema Amrywiaeth a Chynhwysiant (13 Mai 2021). Mae’n dangos sgwrs fer rhwng prif ymchwilydd Ganwyd yng Nghymru, Hope Jones, a dau aelod o’n grŵp Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yr astudiaeth cynnwys y cyhoedd a chleifion (PPI), Ganwyd yng Nghymru.
“Nod Ganwyd yng Nghymru yw ymgysylltu â theuluoedd ledled Cymru. Mae gweithio gyda’n grŵp PPI yn hynod werthfawr wrth ein hannog i ymgysylltu â’n cymunedau lleol. Mae cydweithio â’n grŵp PPI yn ein helpu ni i annog amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn, ac yn ein galluogi ni i gynrychioli pob math o deuluoedd yng Nghymru.” Hope Jones, Prif Ymchwilydd Ganwyd yng Nghymru.
Digwyddiadau a Gweithdai
Cynhelir digwyddiadau a gweithdai â’r nod o ymgysylltu â’r cyhoedd, y GIG, Gofal Cymdeithasol, y Trydydd Sector, ysgolion a’r lywodraeth leol/genedlaethol drwy gydol y flwyddyn. Ewch i’n tudalen Digwyddiadau er mwyn derbyn diweddariadau ynghylch ein gweithdai sydd ar y gweill.
Do you have a question?
If you have a research question, would like to work and collaborate with researchers at the Centre or if you have any other query, get in touch!