

Cafodd yr astudiaeth hon a arweinir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ei chefnogi gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth .
Gall y gwaith rydym yn ei wneud gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar ein hiechyd a’n hansawdd bywyd. Mae bod mewn gwaith da sy’n sefydlog, yn ystyrlon ac sy’n talu’n deg yn fuddiol i iechyd. Mae galluogi pawb i gael mynediad at waith da sy’n bodloni eu hanghenion yn cyfrannu at sicrhau bod pawb yn cael mynediad cyfartal at fywydau gwaith iach.
Mae’r pandemig wedi tarfu ar y byd gwaith, gan orfodi unigolion i addasu i ffyrdd newydd o weithio’n gyflym iawn. Er i’r newidiadau dramatig i brofiadau cyflogaeth y boblogaeth gael eu croesawu gan rai (e.e. y rhai sy’n elwa o fwy o hyblygrwydd drwy weithio gartref), arweiniodd y newidiadau hyn at fwy o ynysu neu straen ariannol i eraill. Gallai’r cyferbyniad hwn ym mhrofiadau gwaith unigolion gwahanol ac is-grwpiau’r boblogaeth gael effaith tymor hir ar flaenoriaethau a bwriadau’r gweithlu ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Gallai taflu goleuni ar y blaenoriaethau a’r bwriadau hyn ac archwilio sut gallent fod wedi datblygu dros y pandemig helpu i lywio polisïau’r dyfodol sy’n cefnogi gwaith da a theg ac yn ei dro, iechyd da.
Defnyddiodd yr ymchwil hon sampl o oedolion sy’n gweithio yng Nghymru i ddatblygu mewnwelediadau i flaenoriaethau’r gweithlu ar gyfer gwaith yn y dyfodol a’r newidiadau i gyflogaeth maent wedi’u hystyried ers pandemig Covid-19. Casglwyd data mewn arolwg o aelwydydd ar draws Cymru rhwng mis Mai a mis Mehefin 2020 a rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021.
Canfyddiadau’r astudiaeth
- Roedd blaenoriaethau gwaith wedi aros yn sefydlog ar y cyfan drwy gydol y pandemig. Serch hynny, roedd yr awydd i weithio’n agos at gartref wedi cynyddu wrth i’r pandemig barhau.
- Roedd y rhai ag iechyd gwannach wedi blaenoriaethu hyblygrwydd ac roeddent yn fwy tebygol o ystyried ymddeol na’u cyfoedion iachach.
- Roedd y rhai â chyflyrau iechyd eisoes bedair gwaith yn fwy tebygol o ystyried bod yn hunangyflogedig.
- Roedd y rhai â lles meddyliol isel hefyd yn dangos tueddiad uwch i ystyried bod yn hunangyflogedig.
- Roedd dros 20% o gyfanswm y sampl yn ystyried ailhyfforddi. Roedd y rhai â lles meddyliol isel, unigolion iau a’r rhai a oedd yn wynebu ansicrwydd ariannol yn fwy tebygol o ystyried hynny.
- Roedd unigolion ar ffyrlo yn fwy tebygol o ystyried ailhyfforddi, bod yn hunangyflogedig, sicrhau cyflogaeth barhaol a chywasgu eu horiau gwaith.
Roedd y rhan fwyaf o oedolion oedran gwaith yng Nghymru am weithio’n agos at gartref, gyda hyn yn fwyfwy gwir wrth i’r pandemig fynd rhagddo.
Roedd is-grwpiau’r boblogaeth sy’n wynebu ansicrwydd yn ystod eu bywydau gwaith (unigolion ar ffyrlo, y rhai hynny sy’n dueddol o wynebu ansicrwydd ariannol, afiechyd) yn fwy tebygol o ystyried newid eu hamodau cyflogaeth. Gall y newidiadau roeddent yn eu hystyried adlewyrchu awydd i gynyddu’r lefel o ymreolaeth, hyblygrwydd a sefydlogrwydd y mae eu gwaith yn ei chynnig.
Mae’r ymchwil hon yn argymell bod angen gweithredu i sicrhau bod gwaith sy’n dda i’ch iechyd yr un mor hygyrch i bawb.
Meddai Melda Lois Griffiths, Uwch-swyddog Ymchwil Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd y Boblogaeth:
Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi gorfod addasu i ffyrdd newydd o weithio yn ystod pandemig Covid-19, ac efallai wedi cymryd cam yn ôl i fyfyrio ar yr hyn rydym ei eisiau a’i angen o’n gwaith. Mae ein canfyddiadau’n awgrymu bod pobl sy’n profi ansicrwydd o ran cyflogaeth neu incwm, neu’n wynebu rhwystrau ychwanegol i ganfod a chadw gwaith yn fwy tebygol o ystyried newid eu cyflogaeth, gydag ailhyfforddi neu fod yn hunangyflogedig yn rhai o’r opsiynau roeddent yn eu hystyried. Bydd darparu cymorth wedi’i dargedu sy’n cefnogi’r grwpiau hyn i ddilyn y nodau hyn yn cyfrannu at alluogi eu mynediad at waith gwell sy’n diwallu eu hanghenion yn well, ac yn ei dro, yn cefnogi eu hiechyd yn well. Yn fwy cyffredinol, gydag 20% o’r sampl yn ystyried ailhyfforddi, rhaid cymryd camau gweithredu i sicrhau bod yr anghenion hyfforddi hyn ar lefel y gweithlu’n cael eu bodloni.
Darllenwch y rhagargraffiad llawn yma – https://www.medrxiv.org/content/10.1101/2022.01.31.22270163v1
The National Centre for Population Health and Wellbeing Research is funded by the Welsh Government through Health and Care Research Wales.