

Ym mis Mawrth, cynhaliwyd cynhadledd flynyddol HAPPEN, a gefnogwyd gan Blant yng Nghymru. Daeth dros o 120 o gynrychiolwyr i’r gynhadledd, gan gynnwys athrawon, penaethiaid a sefydliadau plant.
Mae Rhwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN yn brosiect allweddol ar gyfer Canolfan Ymchwil Iechyd y Boblogaeth a Lles er mwyn pontio’r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer.
Dyma’r bedwaredd flwyddyn i’r digwyddiad gael ei gynnal a bu’n gyfle i drafod ymchwil ddiweddaraf HAPPEN ynghylch iechyd a lles disgyblion pan oedd yr ysgolion ar gau a’r argymhellion y mae athrawon wedi’u gwneud ynghylch dychwelyd i’r ysgol .
Yn ystod y Gynhadledd, cafodd tîm HAPPEN y cyfle i siarad â’r rhai a oedd yn bresennol am y blaenoriaethau i ddisgyblion a staff a chyfeiriad ysgolion cynradd yn y dyfodol.
Anghydraddoldebau mwy eang
Amlygodd trafodaethau yn ystod y Gynhadledd sut y mae cau ysgolion wedi ehangu anghydraddoldebau mewn perthynas ag iechyd ac addysg.
Teimlai’r rhai a oedd yn bresennol fod angen mwy o gymorth emosiynol i helpu disgyblion i ail-addasu i fywyd yn yr ysgol. Er enghraifft, er mwyn helpu plant i gymdeithasu a chydweithio.
“Profiadau mor wahanol i blant yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud – mor anodd i athrawon gefnogi’r holl blant.”
Gallai dosbarthiadau llai helpu ond nid ydynt yn ymarferol bob tro.
Iechyd a lles disgyblion
Thema gyffredin yn y Gynhadledd oedd diogelu a chefnogi iechyd a lles staff a disgyblion.
“Mae angen inni ystyried lles staff a sut y gallwn gefnogi athrawon yn ogystal â disgyblion.”
Rhagor o ymgysylltu â rhieni
Ymhlith enghreifftiau o lwyddiant athrawon wrth addasu roedd ymgysylltu â rhieni megis arddangosiadau dysgu digidol, galwadau ffôn gartref.
“Bob wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud, byddem yn cynnal galwadau ffôn lles ac roedd y rhain yr un mor fuddiol i’r rhieni ag yr oeddent i’r disgyblion. Rydym wedi parhau i wneud hyn ers i’r plant fynd yn ôl i’r ysgol, gan ganolbwyntio ar les y plant a pha mor dda y maent wedi ail-ymgartrefu yn yr ysgol.”
Nododd athrawon yn y Gynhadledd y byddai rhagor o arweiniad ac ymchwil ar ymgysylltu â rhieni’n fuddiol.
Canolbwyntio ar chwarae a rhyngweithio cymdeithasol
Un o’r prif flaenoriaethau oedd cymdeithasu ymhlith disgyblion gyda chyfleoedd i chwarae a bod gyda ffrindiau a rhoi cymorth ychwanegol i’r disgyblion hynny y mae ei angen arnynt.
“Mae angen canolbwyntio ar yr angen i chwarae a rhyngweithio’n gymdeithasol ar ôl y cyfyngiadau symud yn fwy na’r angen i ddychwelyd i addysgu arferol.”
Ymhlith y nodweddion cadarnhaol o ran dysgu cyfunol, trafodwyd cyfleoedd i ganolbwyntio ar feysydd eraill o’r cwricwlwm megis y celfyddydau mynegiannol. Gan adeiladu ar y nodweddion cadarnhaol eraill o ran cau ysgolion, roedd y staff yn awyddus i gyflwyno mwy o ddysgu awyr agored.
Beth yw’r camau nesaf er mwyn datblygu’r blaenoriaethau hyn?
Amlygodd y trafodaethau yr angen i ysgolion, Llywodraeth Cymru a llunwyr penderfyniadau drafod â’i gilydd. Roedd y cynadleddwyr o’r farn y byddai hyn yn helpu staff i ddarparu mewnbwn wrth wneud penderfyniadau ac er mwyn bod yn barod ar gyfer penderfyniadau sy’n effeithio ar ysgolion.
“Dylai Llywodraeth Cymru bennu’r camau gweithredu ymhellach…dyma’r adeg i weithio ar addysgu awyr agored, dysgu creadigol a lles i’r gymuned ysgol gyfan a bydd y ‘dal i fyny’ yn dilyn hyn yn naturiol.”
Roedd y cynadleddwyr yn awyddus i adeiladu ar y pethau cadarnhaol sy’n gysylltiedig â chau ysgolion, megis parhau i ymgysylltu â rhieni yn y dyfodol a diogelu lles gyda rhagor o gyfleoedd i chwarae.
Meddai Dr Michaela James, Ymchwilydd Iechyd Plant a Gweithgarwch Corfforol yn HAPPEN:
“Rhoddodd Cynhadledd HAPPEN gyfle i ni rannu ein hymchwil ddiweddaraf ar effaith y pandemig ar ddisgyblion a staff. Credwn ei bod hi’n fwy pwysig eleni nag erioed ein bod yn rhannu ein canfyddiadau â’r rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag addysg a chaniatáu iddynt fynegi eu barn yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Credwn y gall ein hymchwil ddiweddaraf gael effaith go iawn ar iechyd a lles staff a disgyblion.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn canfod mwy, gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gynhadledd yma. I ganfod mwy am HAPPEN a’i ymchwil, ewch i’w wefan.