

Dyddiad: Dydd Mercher 20 Tachwedd 2019
Amser: 9.30am – 3.30pm
Lleoliad: The Futures Inn, Caerdydd
Cost: Am ddim
Thema’r gynhadledd: Cefnogi Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: ‘Systemau, strwythurau ac ymddygiadau sydd o fudd i ddyfodol iechyd Cymru.
Sut gall Iechyd a Gofal Cymdeithasol fuddsoddi yn y pethau sy’n gweithio (ymyriadau, rhaglenni) ac anfuddsoddi yn y pethau nad ydynt yn gweithio? Sut gall ymchwil Iechyd Poblogaeth helpu i roi gwybod am y penderfyniadau hyn a chyfeiriad iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol?
Nod y gynhadledd yw mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn a dangos ehangder yr ymchwil a gynhelir ledled Cymru sy’n archwilio rhai o’r heriau iechyd a chymdeithasol anoddaf a wynebir heddiw, ac sy’n mynd i’r afael â hwy.
Rhoddir cyflwyniadau drwy gydol y dydd a fydd yn rhannu mewnwelediadau newydd sy’n darparu sylfaen dystiolaeth gadarn i lywio polisïau, arfer a darpariaeth ledled Cymru.
Ymhlith y siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau mae:
Bydd rhaglen lawn a manylion am gofrestru’n dilyn cyn bo hir.
I gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd, e-bostiwch Sarah Toomey yn s.toomey@swansea.ac.uk
@NCPHWR_Wales | #Pophealth2019