

Amcangyfrifir mai clefyd y galon yw achos 31% o’r holl farwolaethau yn y byd bob blwyddyn. Er bod y cyflwr yn aml yn cael ei gysylltu ag oedolion hŷn, mae segurdod a lefelau ffitrwydd gwael ymhlith plant yn golygu bod y ffactorau risg a gysylltir â chlefyd y galon yn fwy cyffredin ymhlith pobl yn eu harddegau nag y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei feddwl.
Dengys ymchwil fod pobl ifanc o gefndiroedd incwm is yn fwy tebygol o fod yn anheini a chyda hanes o ordewdra yn y teulu, sy’n golygu eu bod yn fwy tebygol o ddioddef o glefyd y galon pan fyddant yn hŷn.