

Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi er y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi parhau i weithio gartref, roedd bron hanner y rhai a holwyd hefyd wedi nodi llesiant gwaeth a theimladau o unigrwydd wrth weithio o gartref yn ystod y pandemig.
O’r rhai a allai weithio gartref yn ystod y pandemig, nododd bron hanner ohonynt lesiant meddyliol gwaeth (45 y cant) a mwy o deimladau o unigrwydd (48 y cant). Y grwpiau a oedd fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn profi’r effeithiau hyn oedd gweithwyr iau, menywod, y rhai a oedd yn byw ar eu pen eu hunain a’r rhai ag iechyd gwaeth. Mae’r adroddiad hefyd yn archwilio sut y newidiodd patrymau ymddygiad iechyd (e.e., ysmygu, yfed alcohol, gweithgaredd corfforol ac arferion bwyta’n iach) ymhlith y rhai a wnaeth weithio o gartref. Cymru Iach ar Waith, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain cyflogwyr i weithredu arferion gwaith iach a diogel, a hyrwyddo iechyd a llesiant da. Rydym yn cefnogi cyflogwyr i sicrhau bod pob ffordd o weithio, gan gynnwys gweithio o gartref neu gyfuniad o weithio ar safle gwaith a’r cartref, yn atgyfnerthu iechyd meddyliol a chorfforol da, a’n cymryd anghenion staff yn ogystal â’r sefydliad mewn i ystyriaeth. O ystyried bod modelau gweithio gartref a modelau ‘hybrid’ am gael eu blaenoriaethu yma yng Nghymru, bydd parhau i gryfhau ein dealltwriaeth o’r effeithiau ar iechyd yn ein helpu i siapio strategaethau gweithio o bell ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau bod buddiannau posib gweithio gartref yn cael eu profi yn llawn, a’r niweidiau posib yn cael eu lleihau ar draws gwahanol grwpiau o fewn y boblogaeth. Gellir dod o hyd i’r papur tystiolaeth yma.
Er bod rhai wedi adrodd eu bod wedi profi effaith negyddol ar iechyd wrth weithio gartref yn ystod y pandemig, fe nododd tri o bob pump o ymatebwyr eu bod eisiau parhau i weithio o gartref yn y dyfodol. Er hynny, roedd un o bob pump eisiau osgoi gweithio gartref yn gyfan gwbl. Mae astudiaethau eraill o’r rhai sy’n parhau i weithio o gartref wedi dangos bod lefelau unigrwydd wedi gwella, ond mae lefelau trallod seicolegol yn parhau i fod ychydig yn uwch i rai. Mae cefnogi cyflogwyr a gweithwyr i brofi buddiannau gweithio o gartref, ac i leihau’r niweidiau posib, yn arbennig ar gyfer iechyd meddyliol, yn bwysig. Trwy’r rhaglen