

Astudiaeth yr Heddlu: “Ymchwilio i ddulliau o rannu data’n genedlaethol rhwng yr Heddlu, Iechyd, Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol”
Pryd: Mercher, 8 Rhagfyr 2021 12:30 – 14:00 GMT
Ble: Ar-lein
Ynglŷn â’r digwyddiad hwn
Gweithdy a gynhelir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, ac a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd.
Mae rhannu data rhwng sefydliadau gwahanol yn helpu cynllunio iechyd y cyhoedd, atal troseddu a gofal iechyd yn fawr. O dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, mae’n ofynnol i’r heddlu, llywodraeth leol a’r GIG gydweithredu ar strategaethau ar y cyd.
Mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio ar ddwyn data’r heddlu ynghyd â data’r GIG i wella’r gallu i fynd i’r afael â cham-drin domestig. Rydym wedi ymgymryd ag astudiaeth achos enghreifftiol, gan ddwyn ynghyd data Hysbysiadau Amddiffyn y Cyhoedd (yr Asesiad Cam-drin Domestig, Stelcio a Thrais ar sail Anrhydedd) gyda data adrannau damweiniau ac achosion brys a meddygon teulu, ac rydym wedi cyfweld â’r 4 llu yng Nghymru ynghylch rhannu data.
Hoffem drafod y canfyddiadau a sut y gellir symud ymlaen â rhannu data ar lefel genedlaethol. Y gwaith hwn yw’r cam nesaf ar y daith tuag at greu partneriaethau amlasiantaeth cenedlaethol i wella’r cyfleoedd bywyd i blant sy’n tyfu i fyny dan anfantais (er enghraifft sefyllfaoedd lle mae iechyd meddwl gwael/cam-drin sylweddau/trais domestig/ardaloedd â llawer o drais a throseddu).
Agenda
12:00 – 12:30 – Cinio
12:30 – 12:35 – Cyflwyniad a Throsolwg o’r gwaith.
12:35 – 12:50 – Canfyddiadau o ran data hysbysiadau’r heddlu a’r risg i fabanod heb eu geni, parodrwydd ar gyfer yr ysgol, a risg anaf (adrannau damweiniau ac achosion brys/ysbyty/ marwolaeth) o fewn y flwyddyn.
12:50 – 13:05 – Dysgu o dynnu data o’r testun yn nata Hysbysiadau Amddiffyn y Cyhoedd.
13:05 – 13:20 – Canfyddiadau ac argymhellion o gyfweliadau â’r Heddlu yng Nghymru.
13:20 – 13:50 – Myfyrio mewn gweithdai grwpiau bach ar waith, y camau nesaf ac argymhellion i fwrw ymlaen â nhw.
13:50 – 14:30 – Trafodaeth agored ar y camau nesaf (te, coffi a bisgedi)
Cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn (nid digwyddiad cyhoeddus yw hwn ond mae’n agored i asiantaethau cysylltiedig yng Nghymru).
Os ydych chi’n asiantaeth berthynol (gwasanaethau cymdeithasol, CAHMS ac ati) ac mae gennych ddiddordeb mewn bod yn bresennol, ewch i’n tudalen Eventbrite i gadw lle – https://www.eventbrite.co.uk/e/170120780835