

Mae adroddiad arloesol a gyhoeddwyd heddiw gan ymchwilwyr yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth yn archwilio’r rhwystrau sy’n atal cysylltu data’r heddlu â data iechyd ac yn amlinellu argymhellion ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
Pam mae’n bwysig cysylltu’r data hyn?
Mae deddfwriaeth gan y Llywodraeth (Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998) yn mynnu bod yr heddlu, llywodraeth leol a’r GIG yn cydweithio ar strategaethau lleihau troseddau ar y cyd sy’n cynnwys rhannu data i lywio ymatebion wedi’u targedu.
Ond nid yw data’n cael ei rannu fel mater o drefn. Mae rhannu gwybodaeth ar draws sefydliadau yn hollbwysig oherwydd gall cysylltu data ddarparu gwybodaeth a darlun ehangach o lawer, gan arwain at wneud penderfyniadau mwy effeithlon.
Nid yw cysylltu data’r heddlu â data gofal iechyd yn broses syml. Canfu’r ymchwilwyr dair prif her.
- Mae’r data yn systemau’r heddlu yn aml yn cael eu hysgrifennu ar ffurf naratif sy’n cynnwys gwybodaeth dra sensitif. Er bod data testun yn ddisgrifiadol gyfoethog, mae’n anodd gwneud y data hyn yn ddienw a’u dadansoddi.
- Mae gwasanaethau’r heddlu mewn gwahanol rannau o’r wlad yn defnyddio gwahanol systemau meddalwedd, sy’n golygu bod cysoni data’n anodd.
- Nid oes neb wedi ceisio cysylltu setiau data cyfan yr heddlu â data gofal iechyd eto.
Asesu buddion cysylltu data
Roedd yr adroddiad hwn, a gefnogir gan Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru ac a ariennir gan Grant Datgloi Data y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), yn ceisio asesu p’un a yw’r buddion a ddaw yn sgil cysylltu data’r heddlu a data gofal iechyd yn drech na’r ymdrech sy’n ofynnol ac unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig.
Yn rhan o’r gwaith, cynhaliodd y tîm ymchwil astudiaeth beilot i bennu:
- P’un a ellid defnyddio cloddio testun, sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i drawsnewid testun ysgrifenedig yn ddata strwythuredig, i godio’r meysydd data testun yn systemau data’r heddlu.
- Barn a safbwyntiau staff yr heddlu ynglŷn â defnyddio un system a rhannu data gydag asiantaethau eraill.
- Yr hyn y gellid ei ddysgu o gysylltu data’r heddlu â data iechyd.
Yr astudiaeth beilot
Archwiliodd yr astudiaeth beilot ddefnyddio dulliau cloddio testun i gael ffynonellau data’r heddlu, gan alluogi data testunol i gael ei drawsnewid yn fformat wedi’i godio y gellid ei wneud yn ddienw a’i rannu wedi hynny.
Cynhaliodd y tîm gyfweliadau â 36 o unigolion o’r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru. Roedd y cyfweleion o’r farn y byddai’n ddatblygiad cadarnhaol petai’r holl heddluoedd yn symud i’r un system. Y prif rwystr sy’n atal rhannu data yw diffyg gwybodaeth am yr hyn y mae’n bosibl ei rannu. Fodd bynnag, gellid goresgyn hyn trwy fframwaith clir a gefnogir ar lefel uchel gyda chytundeb ar ba ddata y gellir eu rhannu.
Cynhaliodd y tîm ymchwil astudiaeth achos gan gysylltu data Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd (PPN) â data meddygon teulu ac ysbytai. Dogfen rhannu gwybodaeth yw PPN sy’n caniatáu i heddweision gofnodi pryderon diogelu. Edrychodd yr astudiaeth ar ddata 8,709 o bobl.
- Amlygodd y gwaith hwn mai’r rhai hynny oedd wedi cael eu derbyn i’r ysbyty ar frys, wedi ymweld ag Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) neu wedi marw o fewn 12 mis o’u PPN oedd y rhai hynny a oedd eisoes â hanes o gofnodion iechyd lluosog. Yn ogystal, roedd y cyflawnwr yn fwy tebygol o fod â hanes troseddol.
- Canfu’r dadansoddiad hefyd fod menywod beichiog mewn aelwyd ag atgyfeiriad PPN ddwywaith mor debygol o gael baban â phwysau geni isel o gymharu â menywod beichiog mewn aelwydydd heb atgyfeiriad PPN.
- Mae dioddefwyr iau (0-20 oed) mewn perygl uwch o fynd i adran A&E ar frys neu gael eu derbyn i’r ysbyty ar frys yn ystod y flwyddyn ar ôl y PPN.
Argymhellion ar gyfer gwaith yn y dyfodol
Cyflwynwyd canfyddiadau’r astudiaeth beilot mewn dau weithdy a fynychwyd gan gynrychiolwyr o’r byd academaidd, gwasanaethau heddlu yng Nghymru a Lloegr, Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref a’r trydydd sector. Penderfynodd y mynychwyr ar yr argymhellion a thrafod y camau nesaf, a oedd yn cynnwys:
- Dylai’r cyfeiriad yn y dyfodol ganolbwyntio ar gamau cyflym ymlaen a dangos buddion rhannu data.
- Mae angen ymgynghori â’r cyhoedd i sicrhau bod pobl yn ymddiried mewn unrhyw system rhannu data a gynigir.
- Dylid gwneud gwaith yn y dyfodol i gytuno ar ba wybodaeth y dylid ei rhannu, safonau cytunedig ar gyfer y data hyn ac ym mha fformat y dylid eu casglu, a sut gellir rhannu data ar yr un pryd â bodloni rheoliadau diogelu data.
Dywedodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth:
“Dangosodd y gwaith hwn nad rhwystrau ffisegol yw’r prif rwystrau rhag rhannu data. Gall cysylltu data helpu gwella canlyniadau yn sylweddol a chynorthwyo’r heddlu a’r GIG i gyfeirio a thargedu adnoddau. Yr adroddiad hwn yw’r cam cyntaf tuag at sbarduno’r rhaglen waith hon ac, fel Canolfan, edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r heddlu, gwasanaethau iechyd a phartneriaid eraill i gyflawni hyn.”
This study is funded by the NIHR Public Health Research programme (NIHR133680/NIHR Unlocking Data to Inform Public Health Policy and Practice Grant). The views expressed are those of the author(s) and not necessarily those of the NIHR or the Department of Health and Social Care.
The National Centre for Population Health and Wellbeing Research is funded by the Welsh Government through Health and Care Research Wales.