

Mae ymchwil newydd ar anweithgarwch pobl ifanc yn eu harddegau wedi dangos bod pobl ifanc yn fwy tebygol o wneud ymarfer corff os yw’n hwyl ac os oes modd ei wneud gyda ffrindiau
Hefyd canfu’r astudiaeth ei bod yn hanfodol bod gan bobl ifanc yn eu harddegau’r hawl i wneud eu dewisiadau eu hunain er mwyn cynyddu eu gweithgarwch corfforol.
Yn y DU mae un o bob pedwar person yn marw o glefyd cardiofasgwlaidd ac mae cynnydd wedi arafu o ran atal trawiadau ar y galon a strociau, sydd wedi cael ei gysylltu â dirywiad mewn lefelau gweithgarwch corfforol. Mae’r canfyddiadau hyn, o Brosiect ACTIVE, yn rhan o adroddiad sy’n amlygu’r ffactorau sy’n cyfrannu at anweithgarwch ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau.
Nod y prosiect, a ariannwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon, oedd asesu a fyddai rhoi talebau i bobl ifanc eu gwario ar weithgareddau o’u dewis, yn lleihau’r amser y maent yn ei dreulio yn segur, yn gwella ffitrwydd, yn lleihau’r perygl o glefyd y galon ac yn gwella iechyd cyffredinol. Bu prosiect ACTIVE yn gweithio gyda thros 700 o bobl ifanc yn eu harddegau, o saith ysgol uwchradd yn Abertawe, a gwariwyd 8,000 o dalebau ar weithgareddau yn ystod yr astudiaeth 12 mis.
Rhoddodd yr astudiaeth gipolwg ar agweddau’r bobl ifanc at ymarfer corff, gan ddarparu’r canfyddiadau canlynol:
- Cymerodd niferoedd uwch o bobl ifanc yn eu harddegau ran mewn gweithgareddau a dargedwyd at y ddwy ryw.
- Yn ystod yr astudiaeth, newidiwyd agweddau wrth i’r bobl ifanc ddechrau ystyried gweithgarwch yn rhywbeth hwyl a chymdeithasol ac yn brofiad cadarnhaol.
- Roedd y bobl ifanc hynny oedd eisiau bod yn weithgar yn gallu annog ffrindiau llai gweithgar i gymryd rhan. Mae’r canlyniadau ar gyfer y grŵp hwn o bobl ifanc a gymerodd ran yn y cynllun talebau’n dystiolaeth bod modd newid agweddau cymunedau at weithgarwch.
- Roedd y bobl ifanc yn llawn cymhelliant ac nid oedd pwysau allanol yn effeithio arnynt megis teimlo’n euog neu wneud ymarfer corff oherwydd bod pobl eraill wedi dweud y dylent wneud hynny.
Yn ogystal dangosodd yr ymchwil welliannau sylweddol mewn iechyd:
- O ganlyniad i ddefnyddio’r talebau, gwelwyd cynnydd yn nifer y merched a ystyriwyd yn ‘ffit’.
- Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl ifanc â phwysau gwaed uchel a gwelwyd gwelliant cyffredinol yn iechyd y galon
Fodd bynnag ni lwyddodd yr astudiaeth i oresgyn rhai rhwystrau. Roedd cludiant i weithgareddau’n rhwystr i lawer o bobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig, ac roedd diffyg amser o ganlyniad i bwysau academaidd hefyd yn rhwystr i lawer.
Ychwanegodd Adam Fletcher, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) Cymru: “Mae lefelau anweithgarwch corfforol ac ymddygiad eisteddol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru’n parhau i fod yn uchel, ac mae’n hanfodol cynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol er mwyn gwella iechyd ac atal clefyd cardiofasgwlaidd yn y dyfodol.
Mae’r oedran hwn yn hanfodol o ran datblygiad pobl ifanc ac mae Prosiect ACTIVE yn darparu cipolwg unigryw ar agweddau pobl ifanc yn eu harddegau at ymarfer corff, y rhwystrau y maent yn eu hwynebu a’r hyn sy’n eu hysgogi i fod yn weithgar.”
Meddai Michaela James, Rheolwr Treialon ACTIVE, yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: “Mae wedi bod yn wych gweithio ar Brosiect ACTIVE. Mae’r prosiect wedi taflu goleuni ar rwystrau pwysig i fod yn weithgar ac mae’r bobl ifanc a gymerodd ran wedi cynnig argymhellion ynghylch y rhwystrau hyn. Yn bwysig, mae’r prosiect hwn wedi dangos bod pobl ifanc yn eu harddegau eisiau bod yn weithgar ond maent yn daer am ragor o gyfleoedd lleol ar ffurf gweithgareddau distrwythur, anffurfiol a chymdeithasol. Trwy godi ymwybyddiaeth o sut y mae pobl ifanc yn teimlo a’r hyn y mae ei angen arnynt, rydym yn gobeithio newid y modd y darperir gweithgarwch corfforol yn Abertawe.”
Am ragor o wybodaeth am Brosiect ACTIVE ewch i: https://www.facebook.com/ActiveProjectSwansea
Dilynwch brosiect ACTIVE ar Twitter @ActiveProject_