

Ar un adeg, roedd seibiannau prynhawn yn nodwedd gyffredin bron ar bob amserlen ysgol gynradd. Ond wrth i ysgolion roi mwy o amser i ddysgu ac addysgu, a chyfyngu ar ymddygiad gwael, mae’r amserau chwarae byr hyn wedi cael eu cwtogi, ac mewn llawer o achosion, wedi’u dileu’n gyfan gwbl.
Ond dengys ymchwil fod chwarae’n bwysig ar gyfer datblygiad plentyn – a bellach mae dadansoddiad newydd gan ein prosiect ymchwil barhaus wedi canfod y gallai dileu amser chwarae yn y prynhawn fod yn niweidiol i les corfforol disgyblion.