Gweithio gyda bydwragedd yng Nghymru
Mae ein hymchwilwyr am recriwtio mamau newydd a’u partneriaid i gymryd rhan yn ein hastudiaeth a fydd yn archwilio profiadau beichiogrwydd ac mae angen eich help chi arnom i gyrraedd rhieni newydd ar draws Cymru.
Nod yr astudiaeth ‘Ganwyd yng Nghymru’ yw deall yn well sut i leihau genedigaethau ychydig cyn amser a phwysau geni isel ac i helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd.
Mae’r astudiaeth yn edrych ar ddigwyddiadau bywyd gan gynnwys bywyd gwaith a straen ar famau beichiog a phartneriaid. Mae’n gysylltiedig â data iechyd, ysgol a data eraill i ddeall yn well y sefyllfaoedd teuluol sy’n gallu cael effaith ar y blynyddoedd cynnar i blant, gyda’r nod o roi tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio i gefnogi plant a theuluoedd o’r dechrau.
Gall y canfyddiadau o’r astudiaeth hon helpu i hysbysu teuluoedd, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a llunwyr polisi ar y ffordd orau o gefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.