

Mae Labordy Data newydd a ddatblygwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth yn arwain y ffordd wrth ddatblygu ymchwil i iechyd y boblogaeth. Mae’r Labordy Data yn creu setiau data cysylltiedig hygyrch y gall ymchwilwyr eu defnyddio at ddiben darganfod data, gan alluogi ymchwilwyr i ddatblygu eu cwestiynau ymchwil ac i dreialu dulliau dadansoddi a gweld a yw data ar goll, heb ei gasglu neu’n wahanol i’r disgwyl cyn dechrau prosiect.
Ymchwil gyflym yn gynt ac yn haws
Mae’r Labordy Data yn helpu i wneud mynediad at ddata yn gynt ac yn haws, ac mae wedi cael ei ddefnyddio i gynnal ymchwil yn gyflym, er enghraifft, wrth ymchwilio i effaith COVID.
Nodau’r Labordy Data yw:
- Hyfforddi ymarferwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr i ddeall a defnyddio data yn well.
- Cyflwyno ffynonellau newydd o ddata iechyd a data o feysydd eraill, gan ychwanegu at y setiau data dienw a gedwir yng Nghymru a’u cyfoethogi. Bydd yn galluogi ymchwilwyr yng Nghymru a’r tu hwnt i wella eu dealltwriaeth o’r penderfynyddion cymdeithasol sy’n effeithio ar iechyd a lles.
Meddai Dr Jon Kennedy, Arweinydd Rhaglen y Labordy Data: “Mae’r Labordy Data yn adnodd gwych sydd ar gael i ymchwilwyr ledled y DU. Gall ein tîm helpu ymarferwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr i wella eu dealltwriaeth o’r penderfynyddion cymdeithasol ehangach sy’n effeithio ar iechyd a lles, a meithrin gwybodaeth fanylach ar sail y rhain.
Meddai Dr Rosemary Hollick o Sefydliad y Gwyddorau Iechyd Cymhwysol, Prifysgol Aberdeen: “Oherwydd nad oedd gennym ddigon o sgiliau gwyddor data, mae gallu cyflogi aelod o’r Labordy Data i ddadansoddi ein data wedi ein galluogi i gadw ein hastudiaeth ar y trywydd iawn a darparu allbynnau allweddol. Mae tîm y Labordy Data wedi darparu canfyddiadau mewn ffordd eglur, agored a phroffesiynol ac maen nhw hefyd wedi cefnogi aelodau eraill o’n tîm. Mae’r cyfle i rannu gwybodaeth wedi bod yn wych.”
Meddai’r Athro Krish Nirantharakumar o’r Sefydliad Ymchwil Iechyd Gymhwysol, Prifysgol Birmingham: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm Jon yn y Labordy Data. Maen nhw’n ymarferwyr proffesiynol medrus iawn ac yn darparu dadansoddiadau dibynadwy, tryloyw mae modd eu hatgynhyrchu.”
Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth: “Mae’r Ganolfan yn ymrwymedig i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad ym maes datblygu iechyd y boblogaeth. I helpu i gyflawni hyn, mae’r Ganolfan yn cynnig isadeiledd sy’n cefnogi, yn cyfoethogi ac yn cynyddu capasiti a galluoedd mewn ymchwil gwyddor data poblogaethau – ac mae’r Labordy Data newydd yn rhan o’r ymrwymiad hwn.”
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech weithio gyda thîm y Labordy Data, cysylltwch â Dr Jon Kennedy, Arweinydd Rhaglen y Labordy Data yn j.i.kennedy@abertawe.ac.uk.
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR). Ariennir y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.