

Mae’r astudiaeth Ganwyd yng Nghymru wedi lansio arolwg newydd ar gyfer rhieni â phlant rhwng 18 mis a dwyflwydd a hanner oed. Mae’r holiadur newydd yn adeiladu ar lwyddiant arolwg cyntaf Ganwyd yng Nghymru a roddodd sylw i rieni babanod newydd, neu bobl a oedd yn disgwyl babi.
Holiadur ar-lein
Bydd gofyn i bobl â phlant rhwng 18 mis a dwyflwydd a hanner oed lenwi holiadur ar-lein. Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau am y rhieni ac am iechyd a lles eu plant. Mae cwestiynau eraill yn canolbwyntio ar ethnigrwydd, statws cyflogaeth, a gwasanaethau yn eu hardal leol. Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i lenwi’r holiadur.
Cysylltu data er mwyn roi sylw i effeithiau’r dyfodol
Gyda chaniatâd y cyfranogwyr, bydd eu hatebion o’r arolwg yn cael eu cysylltu’n ddienw â chofnodion iechyd ac addysg – gan ganiatáu i’n tîm ymchwil archwilio sut mae iechyd a lles teuluoedd yn effeithio ar ganlyniadau iechyd ac addysg yn y dyfodol.
Dywedodd Hope Jones, Ymchwilydd y Blynyddoedd Cynnar yng Nghanolfan Iechyd y Boblogaeth:
“Cafodd ein harolwg newydd ei greu ar gyfer rhieni sydd â phlant 18 mis i blant dwyflwydd a hanner oed. Mae’r arolwg yn holi rhieni am eu hiechyd a’u lles, eu gweithgarwch corfforol, eu sefyllfa tai a gwaith, gwasanaethau cymorth, a’u teuluoedd.
Byddwn yn annog rhieni i lenwi’r arolwg a rhannu eu barn a’u safbwyntiau â ni er mwyn i ni allu dyfnhau ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n dylanwadu ar iechyd a lles y teulu ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth:
“Rydym wrth ein boddau i lansio ein harolwg newydd, sy’n ehangu ein hymchwil i blant rhwng 18 mis a dwyflwydd a hanner oed.
Mae blynyddoedd cyntaf bywyd plentyn yn hanfodol bwysig wrth adeiladu’r sylfaen ar gyfer twf, iechyd, lles, sgiliau cymdeithasol, a chyrhaeddiad addysgol. Bydd yr arolwg newydd hwn yn ychwanegu ymhellach at ein dealltwriaeth o’r hyn a all ddylanwadu ar newid mewn twf a datblygiad plentyn.
Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn adeiladu ar ein sylfaen dystiolaeth gynyddol a fydd yn llywio polisi ac ymarfer er mwyn helpu i wella bywydau teuluoedd sy’n cael eu magu yng Nghymru, sydd ag effeithiau hirdymor ar ganlyniadau’r dyfodol.”
Astudiaeth yw Ganwyd yng Nghymru o garfan o amser geni ymlaen a ariennir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth. Bydd yr astudiaeth hon yn darparu tystiolaeth fel y gellir deall yn well ac adnabod y materion amlycaf sy’n wynebu teuluoedd sy’n cael eu magu yng Nghymru. Hefyd, bydd tystiolaeth yr astudiaeth yn llywio polisïau a all gefnogi newidiadau er mwyn gwella iechyd a lles teuluoedd, yn enwedig y rhai yr ystyrir eu bod yn fwy agored i niwed.
Dysgwch ragor am yr astudiaeth a chyrchu’r holiadur.
Ariennir y Ganolfan Genedlaethol i Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru