

Datgelodd astudiaeth ddiweddar gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe fod menywod a oedd yn iau na 30, ysmygwyr neu gyn-ysmygwyr, y rhai hynny sy’n byw gydag un cyflwr iechyd neu ddim cyflwr iechyd o gwbl (heb fod yn dioddef o gydafiechedd), neu’r rhai sy’n byw mewn ardal ddifreintiedig yn fwy tebygol o fod yn betrusgar o ran cael brechlyn COVID-19.
Mae petruster ynghylch brechlynnau’n ystyriaeth o bwys ymhlith poblogaethau sy’n agored i niwed, megis menywod beichiog, yn enwedig yn ystod y pandemig. Nod yr astudiaeth ar y cyd, dan arweiniad tîm Ganwyd yng Nghymru yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR), oedd archwilio effaith cydafiechedd (y rhai hynny sy’n byw ag un neu fwy o gyflyrau iechyd hirdymor), statws ysmygu a demograffeg (oedran, grŵp ethnig, ardal o amddifadedd) ar betruster o ran brechlynnau ymhlith menywod beichiog yng Nghymru.
Nododd yr astudiaeth fod 25,111 o fenywod beichiog a oedd yn byw yng Nghymru rhwng 13 Ebrill a 31 Rhagfyr, 2021, yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn gymwys i dderbyn brechlyn COVID-19.
Defnyddiodd y tîm Fanc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw’n Ddiogel (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe, i ddod â data o wahanol ffynonellau ynghyd gan gynnwys data gan feddygon teulu, derbyniadau i’r ysbyty, iechyd plant cymunedol cenedlaethol, dangosyddion mamol a data brechu. Mae Banc Data SAIL yn gronfa ddata ddienw sy’n hwyluso cysylltedd data. Drwy gysylltu data, gall ymchwilwyr gyfuno gwybodaeth o sawl adnodd amrywiol i greu dealltwriaeth ddyfnach a safon uwch o wybodaeth i’w defnyddio yn eu hymchwil.
Canlyniadau’r astudiaeth
- Derbyniodd 32.7% o leiaf un dos o frechlyn COVID-19 yn ystod beichiogrwydd
- Roedd 34.1% yn parhau i fod â statws heb eu brechu trwy gydol y cyfnod dilynol
- Derbyniodd 33.2% y brechlyn wedi iddynt roi genedigaeth
- Roedd menywod dros 30 oed yn fwy tebygol o gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd.
- Roedd y rhai hynny a oedd yn isel eu hysbryd yn llawer mwy tebygol o gael y brechlyn o’u cymharu â’r rhai hynny nad oeddent yn isel eu hysbryd.
- Roedd menywod a oedd yn byw gyda chydafiechedd yn fwy tebygol o gael y brechlyn.
- Gwelwyd nifer sylweddol is o bobl yn cael y brechlyn ymhlith ysmygwyr a chyn-ysmygwyr o’u cymharu â’r rhai nad oeddent wedi ysmygu erioed.
- Roedd llai o bobl hefyd yn cael eu brechu yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’u cymharu â’r ardaloedd mwyaf cyfoethog.
Meddai Dr Mohamed Mhereeg, cyd-awdur ac ymchwilydd NCPHWR: “Wrth inni barhau i fyw gyda COVID-19, mae’n hanfodol inni ymchwilio i’r effaith barhaus ar ein hiechyd a’n lles. Mae ymchwil ym maes iechyd mamau a babanod yn hanfodol er mwyn darparu tystiolaeth fanwl gywir i lywio gofal iechyd i famau a babanod yn ogystal â’r polisïau a’r arferion cysylltiedig.
Datgelodd ein hastudiaeth fod cydafiechedd, statws ysmygu, oedran a lefel amddifadedd oll yn cael effaith sylweddol ar betruster ynghylch cael y brechlyn. Felly, argymhellwn efallai fod angen ymagwedd wedi’i thargedu er mwyn gallu cyrraedd a diogelu’r grwpiau hyn.”