

Mae ein hymchwil yn anelu at ddod â newid cadarnhaol i iechyd a lles y bobl sy’n byw yng Nghymru. Mae cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth yn ein cynorthwyo i leihau’r bwlch o bontio rhwng canfyddiadau ein hymchwil a sut y gellir ei ddefnyddio i
- Wella polisi’r Llywodraeth
- Cyfeirio gwasanaethau cymdeithasol tuag at addysg, iechyd a thriniaeth gofal cymdeithasol
- Galluogi’r cyhoedd drwy gynyddu eu hymchwil a’u dealltwriaeth
Ein trydydd Adroddiad blynyddol ar gyfer y cyhoedd, wedi ei gynhyrchu ar gyfer ein cyllidwyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, syn crynhoi ein cynnydd mewn meysydd allweddol o ymchwil rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018. Mae’r adroddiad yn ffordd wych o hysbysu’r gymuned ehangach yn barhaus ynglŷn â chyrhaeddiadau mewn ymchwil a datblygiad dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ystod y flwyddyn, mae’r Ganolfan wedi parhau i hyrwyddo’i chenhadaeth i wella iechyd a llesiant poblogaeth Cymru. I gyflawni hynny, rydym wedi parhau i alluogi llunio nifer fawr o gynigion ariannu llwyddiannus, gan sicrhau gwerth mwy na £6.5 miliwn o gyllid. Rydym ni’n gweithio i ddefnyddio ein canfyddiadau ymchwil o safon, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i lywio gwasanaethau cyhoeddus a phenderfyniadau gan y llywodraeth.
Yn adroddiad y llynedd nodwyd sut roedd ein hymchwil yn cael effaith amlwg ar iechyd a meysydd eraill. Eleni, byddwn yn dangos canlyniadau ein hymchwil i faterion plant a phobl ifanc a heneiddio’n iach.
Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar rai o broblemau mwyaf cymdeithas ac mae ein gwaith yn cynorthwyo i ddod â newid cadarnhaol, darganfyddwch fwy a chymerwch olwg ar ein Hadroddiad ar gyfer y Cyhoedd…