

Yn y podlediad BERA hwn, mae Nick Johnston (Prif Weithredwr BERA) yn cyfweld â Dr Emily Marchant o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth, ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ymchwil Emily yn canolbwyntio ar blant oed ysgol gynradd ac yn archwilio’r berthynas rhwng ffactorau epidemiolegol ac ymddygiadau ffordd o fyw â chanlyniadau addysgol, gan ddefnyddio cyswllt data. Mae hi hefyd yn gwerthuso ymyriadau mewn ysgolion ac wedi cyhoeddi ymchwil werthuso’n flaenorol ar ddysgu yn yr awyr agored a’r Filltir Bob Dydd. Yn ystod PhD Emily, datblygodd ac ehangodd Rwydwaith Ysgolion Cynradd Cymru HAPPEN i rwydwaith genedlaethol sy’n casglu ac yn rhannu gwybodaeth am ymddygiad ac iechyd ag ysgolion.
Yn y rhaglen, mae Emily yn trafod yr effaith mae Covid 19 wedi ei chael ar blant gan ganolbwyntio’n benodol ar eu hiechyd a’u lles, profiad y staff a’r effeithiau posib yn y dyfodol wrth i ysgolion ailagor.