

Date: 19th Mehefin 2018
Mae cofrestru ar gyfer y Gynhadledd Iechyd y Boblogaeth yn Future Inn, Bae Caerdydd ar agor nawr. Bydd y gynhadledd undydd hon yn arddangos ymchwil ym maes iechyd y boblogaeth.
Nod cynhadledd Thema Ymchwil y Boblogaeth BLS Prifysgol Caerdydd yw:
- Arddangos yr ystod o ymchwil iechyd y boblogaeth a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd
- Darparu cyfleoedd rhwydweithio i ymchwilwyr, llunwyr polisi, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, arbenigwyr iechyd y cyhoedd, darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal sy’n rhoi canlyniadau ymchwil ar waith wrth ffurfio polisïau a darparu gwasanaethau i wella iechyd y boblogaeth
- Annog dulliau trawsddisgyblaethol i fynd i’r afael â’r heriau iechyd y boblogaeth allweddol
Bydd cymysgedd o sesiynau llawn a chyfochrog, gan gynnwys:
- Sgrinio am Gancr
- Iechyd meddwl ymhlith plant
- PLACE (hybu ymchwil rhyngddisgyblaethol ym maes iechyd y boblogaeth)
- Heintiau
- Atal Canser
- Treialon Iechyd y Boblogaeth
- Cysylltu Data
- Gofal Lliniarol
Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim. Cofrestrwch drwy’r ddolen isod.
Archebu: Eventbrite