Mae’r astudiaeth Ganwyd yng Nghymru wedi lansio arolwg newydd i rieni sydd â phlentyn rhwng 18 mis a 2 a hanner oed.
Arolwg ar-lein byr
Rydym ni’n gofyn i rieni â phlant rhwng 18 mis a 2 a hanner oed gwblhau ein harolwg ar-lein byr. Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau am iechyd a lles eich plentyn. Mae cwestiynau eraill yn canolbwyntio ar ethnigrwydd, statws cyflogaeth a gwasanaethau yn eu hardal leol. Ni ddylai’r holiadur gymryd mwy na 15 munud i’w gwblhau.
Cysylltu data ar gyfer effaith yn y dyfodol
Gyda chydsyniad cyfranogwyr, caiff atebion o’r arolwg eu cysylltu’n ddienw â chofnodion iechyd ac addysg. Bydd hyn yn galluogi’r tîm ymchwil i ymchwilio i sut mae iechyd a lles teuluoedd yn effeithio ar ganlyniadau iechyd ac addysg yn y dyfodol.
Diolch am gymryd rhan.