Michaela James, Canolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth
Yr Her
Ar hyn o bryd, mae clefyd y galon yn effeithio ar fwy na 7 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig. Oherwydd hyn, mae gweithgarwch corfforol pobl yn eu harddegau wedi dod yn bryder i iechyd cyhoeddus. Awgryma ganllawiau iechyd cyhoeddus 60 munud o weithgarwch corfforol cymedrol i egnïol y dydd. Fodd bynnag, adroddir bod dim ond 11% o ferched a 20% o fechgyn yn ddigon actif yng Nghymru.
Wrth i blant gyrraedd eu glasoed, maent yn gwneud llai o weithgarwch corfforol. Mae hyn yn enwedig o berthnasol i’r rheiny sy’n dod o ardaloedd mwy difreintiedig. Awgryma ymchwil y gall hyn fod oherwydd rhwystrau hygyrchedd e.e. cost (mae’r gweithgareddau’n rhy ddrud), ddiffyg cyfleusterau lleol (angen i deithio) a chymhelliad ymhlith pobl yn eu harddegau.
Mae Ysgol Uwchradd wedi cael ei chydnabod fel cyfnod o newid allweddol mewn ymddygiadau gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc ac mae’n lleoliad pwysig ar gyfer hyrwyddo gweithgarwch corfforol. Mae’n debygol y bydd ymddygiadau a fabwysiedir yn ystod y cyfnod hwn yn parhau wrth i’r plant dyfu’n oedolion.

Yr Ymchwil
Cymerodd 7 ysgol uwchradd yn ne Cymru ran yn Nhreial ar Hap a Reolir (RCT) ACTIVE. Astudiaeth yw RCT lle bydd 2 neu fwy o grwpiau yn profi ymyriad. Bydd ymyriad gan un grŵp a bydd y llall heb ymyriad. Yna, gellir cymharu data o’r ddau grŵp i fesur unrhyw wahaniaeth mewn ymateb a chanlyniadau. Yn yr astudiaeth hon, cymerodd 4 ysgol ran yn yr ymyriad a defnyddiwyd 3 ysgol fel ysgol a reolir. Roedd yr holl bobl ifanc ym mlwyddyn 9 rhwng 13 ac 14 oed yn gymwys i gymryd rhan yn yr astudiaeth.
Derbyniodd yr ysgolion yn y grŵp ymyriad dalebau galluogi gweithgareddau gwerth £20 y mis, cynllun mentora cymheiriaid (lle nododd disgyblion eu cymheiriaid mwyaf dylanwadol [n=10 yr ysgol]), a chysylltiad â gweithiwr cymorth am 12 mis rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2017. Dadansoddwyd y data rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2018. Roedd y data’n cynnwys mesuriadau o ffitrwydd cardiofasgwlaidd (prawf rhedeg Cooper), iechyd cardiofasgwlaidd (pwysedd gwaed a dadansoddiad tonnau pwls), cymhelliad (holiadur BREQ-2) a grwpiau ffocws (2 yr ysgol gyda bechgyn a merched mewn grwpiau gwahanol).
Y Canfyddiadau
Bu llai o bobl ifanc â phwysedd gwaed uchel yn y grŵp ymyriad. Nododd data o ran ble defnyddiodd pobl ifanc dalebau a thystiolaeth o grwpiau ffocws fod pobl yn eu harddegau am gael mynediad at weithgareddau anffurfiol a chymdeithasol llai strwythuredig yn eu hardaloedd lleol.
Yr Effaith
Nododd y Gwerthusiad o Blant Actif drwy Dalebau Unigol ddulliau a allai effeithio’n gadarnhaol ar ffitrwydd cardiofasgwlaidd, iechyd cardiofasgwlaidd a safbwyntiau ar weithgarwch. Gall gwrando ar bobl ifanc, eu galluogi a darparu mwy o gyfleoedd lleol iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ddifyr, yn anffurfiol ac yn gymdeithasol effeithio’n gadarnhaol ar weithgarwch corfforol pobl yn eu harddegau.
Active Children Through Individual Vouchers Evaluation: A Mixed-Method RCT – ScienceDirect