Mae’r ymchwil hon yn enghraifft o ymagwedd gydweithredol Canolfan Iechyd y Boblogaeth at ymchwil.
Prif awdur Joe Hollinghurst, Ymchwil Data Iechyd y DU (HDRUK). Mae’r cydweithredwyr yn cynnwys HDRUK, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a’r Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth.
Yr Her
Mae preswylwyr cartrefi gofal yn grŵp blaenoriaeth i dderbyn brechiadau ar gyfer Covid-19 yn y DU. Serch hynny, mae effeithiolrwydd brechlyn Covid-19 ymysg pobl hŷn yn weddol anhysbys, gydag ychydig iawn o dreialon sy’n recriwtio pobl hŷn a phobl hŷn ag afiechyd.
Mae cartrefi gofal yn gonglfaen gofal cymdeithasol i oedolion. Maent yn darparu llety a gofal i’r rhai y mae angen cymorth sylweddol arnynt gyda gofal personol, ond yn bwysicach, maen nhw’n gartrefi i bobl. Mewn cartrefi gofal, mae pobl yn byw’n agos iawn at ei gilydd ac efallai eu bod yn fregus â llawer o gyflyrau iechyd gwahanol, gan eu gwneud nhw’n agored i ymlediad clefydau heintus.

Yr ymchwil
Cynhaliodd y tîm ymchwil astudiaeth cysylltu data arsylwadol gan gynnwys 14,104 o breswylwyr cartrefi gofal hŷn sydd wedi’u brechu yng Nghymru (DU) gan ddefnyddio cofnodion iechyd electronig dienw a data gweinyddol o Fanc Data SAIL. Mae’r astudiaeth yn ymchwilio i brofion Covid-19 cadarnhaol yn dilyn brechu Covid-19 rhwng 4 Rhagfyr 2020 a 4 Mawrth 2021.
Y Canfyddiadau
- Roedd 148 (1%) o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael prawf cadarnhaol ar ôl brechu.
- Cafwyd 90% o’r profion cadarnhaol o fewn 28 niwrnod o frechu.
- Roedd risg lai o brawf cadarnhaol ar gyfer unigolion a oedd eisoes wedi cael haint.
- Roedd difrifoldeb gwendid cynyddol yn gysylltiedig â chyfle cynyddol o gael prawf cadarnhaol.
Yr Effaith
Gwnaeth ymchwilwyr g anfod fod risg gynyddol o haint ar ôl 21 diwrnod yn gysylltiedig â difrifoldeb gwendid cynyddol. Yn ôl yr astudiaeth, cafwyd y nifer mwyaf o heintiau o fewn 28 niwrnod o frechu, gan awgrymu y dylid cymryd mwy o ragofalon i leihau’r risg o ymledu yn ystod y cyfnod hwn.