Prof Jane Noyes – Prifysgol Bangor
Yr Her
Yn y Deyrnas Unedig, mae gwelliannau mewn gwasanaethau wedi cael eu llywio gan y Gwasanaethau Iechyd Gwladol: Strategaeth Gofal Diwedd Oes sydd â’r nod o sicrhau bod cleifion a’u teuluoedd yn derbyn y gofal gorau posib.
Fodd bynnag, wrth i’r galw am ofal diwedd oes dyfu oherwydd cymhlethdod cynyddol clefydau cronig ynghyd â phrinder adnoddau ariannol, mae pwysau cynyddol ar hosbisau i ailgynllunio gwasanaethau drwy’r amser. Am y rheswm hwn, mae’n bwysig gwneud ymdrechion parhaus i nodi dewisiadau cleifion a theuluoedd, a’r hyn sydd bwysicaf iddynt am y gofal a ddarperir iddynt.

Yr Ymchwil
Nod yr adolygiad hwn oedd archwilio barn a phrofiadau cleifion a’r aelodau teulu sy’n gofalu amdanynt a chanfod yr hyn a oedd yn bwysig iddynt am ofal i oedolion mewn hosbisau yn y DU.
Er mwyn meithrin dealltwriaeth ddyfnach a manylach, bu’r tîm ymchwil yn chwilio ac yn sgrinio cyfnodolion ym maes iechyd. O ganlyniad, nodwyd cyfuniad o astudiaethau ar gyfer yr adolygiad, gan gynnwys:
- Astudiaethau ansoddol. Mae’r math hwn o astudiaethau’n casglu gwybodaeth o grwpiau ffocws, cyfweliadau ac yn y blaen, a gellir eu defnyddio i feithrin dealltwriaeth fanylach o brofiadau, meddyliau a barn unigolion.
- Astudiaethau ansoddol. Mae’r astudiaethau hyn yn seiliedig ar ddata rhifiadol.
Y Canfyddiadau
Nododd yr adolygiad flaenoriaethau cyffredin o ran yr hyn a oedd yn bwysig i deuluoedd. Serch hynny, daeth y tîm ar draws rhai gwahaniaethau, a allai ddeillio o leoliadau daearyddol gwahanol yr hosbisau. Dyma rai o ganfyddiadau’r adolygiad:
- Ceir nodweddion allweddol sy’n gysylltiedig â ‘marwolaeth dda’, waeth beth yw’r lleoliad. Fodd bynnag, gall cysyniad ‘marwolaeth dda’ fod yn gymhleth ac yn unigol iawn. Felly, mae hyn yn amlygu pwysigrwydd system sy’n cynnig asesiadau cyfannol parhaus i ymateb i anghenion newidiol y claf a’i deulu.
- Cafodd ansawdd y gofal rheoli poen a symptomau ei ganmol yn fawr yn gyson gan gleifion a darparwyr gofal; fodd bynnag, gallu’r hosbisau i ddarparu yn yr agweddau seico-gymdeithasol ar ofal, er mwyn gwella lles emosiynol, a dderbyniodd y ganmoliaeth uchaf yn gyson.
- Nodwyd prinder cymorth cymdeithasol o fewn yr hosbisau. Daeth y tîm i’r casgliad y byddai rhwydwaith o gymorth cymdeithasol sy’n deall y cymhlethdodau ynghlwm wrth ofalu am unigolyn ar ddiwedd ei oes o fudd.
- Nododd y tîm amrywiadau o ran y cymorth sydd ar gael dros y ffôn y tu allan i oriau, gwasanaeth sy’n cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr gofal yn y teulu yn bennaf.
- Yn ogystal, bu amrywiadau’n amlwg o ran y Gwasanaeth Hosbis yn y Cartref. Cyfeiriodd rhai gofalwyr at fynediad anghyfartal i’r cymorth arbenigol hwn, sy’n dangos bylchau pwysig yn y ddarpariaeth.
- Dangoswyd bod y baich corfforol a meddyliol sy’n gysylltiedig â rôl y darparwr gofal yn dylanwadu ar brofiad profedigaeth, rhywbeth y gellir ei newid drwy ddarparu cymorth addas. Er i gyrff ymgynghorol megis NICE annog cynnig cymorth profedigaeth i’r rhai y mae profedigaeth yn effeithio’n agos arnynt – nid yw pob hosbis wedi mabwysiadu’r ymagwedd hon.
Yr Effaith
Hwn yw’r adolygiad cyntaf i archwilio’r agweddau ar ofal hosbis sy’n bwysig i gleifion a gofalwyr. Mae canfyddiadau’r adolygiad yn cryfhau’r sylfaen tystiolaeth bresennol ac yn amlygu elfennau sylfaenol gofal hosbis sydd bwysicaf i gleifion a’u teuluoedd.
Gan ystyried y gwahaniaethau mawr o ran y gwasanaethau sydd ar gael, tan-gynrychiolaeth cleifion â chlefydau nad ydynt yn falaen a diffyg tystiolaeth o anghenion cymdeithasol gofalwyr, erys bylchau sylweddol sy’n galw am ymchwil pellach.
Am ragor o wybodaeth a manylion am yr ymchwil, ewch i: https://bmcpalliatcare.biomedcentral.com/articles/10.1186/s12904-019-0401-1