Ernest Choy – Rhewmatoleg, Sefydliad Heintiau ac Imiwnedd, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Yr Her
Mae ffibromyalgia yn gyflwr sy’n achosi problemau iechyd cronig gyda phoen, tynerwch ac anystwythder yn y cyhyrau trwy gydol y corff ac mae oddeutu 2% o’r boblogaeth gyffredinol yn dioddef o’r cyflwr ar hyn o bryd.
Er mai poen yw prif symptom ffibromyalgia, mae symptomau eraill megis blinder, problemau cysgu, newid hwyliau a namau gwybyddol (problemau gyda’r ffordd mae rhywun yn meddwl, yn cyfathrebu, yn deall neu’n cofio pethau) yn gyffredin a gallant ddylanwadu’n fawr ar ansawdd bywyd – ac mae’r broses o ddiagnosio a rheoli’r cyflwr yn parhau i fod yn her i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol.
Asesodd argymhellion ar gyfer rheoli ffibromyalgia Cynghrair Ewrop yn erbyn Gwynegon (EULAR) dystiolaeth hyd at 2005. Gan ystyried y diffyg gwybodaeth ac ansawdd gwael yr astudiaethau oedd ar gael, argymhellwyd y dylid diwygio’r canllawiau ar ôl cyfnod o 4 blynedd. Fodd bynnag, ni chafodd y canllawiau eu diwygio wedi hynny a degawd yn ddiweddarach gofynnwyd i weithgor rhyngwladol ailystyried yr argymhellion gyda’r nod o’u seilio’n fwy helaeth ar dystiolaeth.

Yr Ymchwil
Roedd y gweithgor yn cynnwys 18 aelod o 12 gwlad yn Ewrop gan gynnwys clinigwyr, gwyddonwyr anghlinigol, cynrychiolwyr cleifion a’r proffesiynau iechyd perthynol (nyrsio). Aeth y grŵp, a oedd yn cynnwys Athro Clinigol o NCPHWR, ati i asesu tystiolaeth gyda’r nod o wneud argymhellion ar gyfer defnyddio triniaethau ffarmacolegol unigol (ymyriadau gan ddefnyddio meddyginiaeth) a dulliau nad ydynt yn ffarmacolegol (ymyriadau nad ydynt yn cynnwys meddyginiaeth), a sut y gellir cyfuno’r rhain. Hefyd roedd y tîm yn anelu at adnabod meysydd blaenoriaeth ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
Y Canlyniadau
-
- Mae angen gwneud diagnosis prydlon er mwyn rheoli’r cyflwr yn y ffordd orau.
- Dylid cynnal asesiad cynhwysfawr o boen, swyddogaeth a’r cyd-destun seico-gymeithasol.
- Dylai’r rheoli fod ar ffurf ymagwedd gynyddol gyda’r nod o wella ansawdd bywyd mewn perthynas ag iechyd.
- I ddechrau dylai’r dull rheoli gynnwys addysgu cleifion a chanolbwyntio ar therapïau anffarmacolegol.
- O blith y therapïau anffarmacolegol a astudiwyd, argymhellodd y grŵp yn gryf ymarfer corff, yn benodol oherwydd ei effaith ar boen, gweithrediad corfforol a lles, a’r ffaith ei fod ar gael yn rhwydd ac am gost gymharol isel a’r nifer isel o bryderon diogelwch sy’n gysylltiedig ag ef.
- Awgrymwyd ymagwedd gynyddol tuag at ymarfer corff ac y dylid ategu hyn drwy wneud penderfyniadau ar y cyd â chleifion.
- Yn achos dim ymateb, dylid teilwra therapïau pellach i anghenion penodol yr unigolyn a allai gynnwys:
- Therapïau seicolegol – ar gyfer anhwylderau hwyliau. Roedd Therapi Ymddygiad Gwybyddol (therapi siarad sy’n helpu i ddysgu sgiliau ymdopi) yn effeithiol wrth sicrhau gostyngiadau cymedrol i hir dymor mewn poen, anabledd a gwella hwyliau.
- Argymhellwyd ffarmacotherapi (defnyddio’r meddyginiaethau effeithiol penodol y cyfeiriwyd atynt yn yr astudiaeth) – ar gyfer poen neu anhunedd.
- Argymhellwyd rhaglenni adsefydlu aml-weithgaredd ar gyfer anabledd difrifol.
Yr Effaith
Mae’r argymhellion hyn yn ymgorffori degawd o dystiolaeth mewn perthynas â’r broses ffarmacolegol ac anffarmacolegol o reoli ffibromyalgia. Mae’r canfyddiadau wedi gwella’n dealltwriaeth yn fawr – ac mae’r argymhellion o’r astudiaeth yn cael eu rhannu’n rhyngwladol trwy addysg, cyfarfodydd a chymdeithasau rhewmatoleg.
Yn bwysig, tynnodd yr astudiaeth sylw at feysydd blaenoriaeth ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. Mae’r meysydd hyn yn canolbwyntio ar baru cleifion â’r therapïau a’r triniaethau gorau, a threfnu systemau gofal iechyd yn well er mwyn optimeiddio canlyniadau. Gobeithir y bydd hyn yn gallu paratoi’r ffordd ar gyfer ymchwil newydd y gellir ei defnyddio i helpu i dargedu triniaethau’n fwy effeithiol, gan arwain at ansawdd bywyd sylweddol well i gleifion a chost ratach i ddarparwyr gofal iechyd.
Am ragor o wybodaeth am yr ymchwil, argymhellion a blaenoriaethau’r dyfodol, ewch i: https://ard.bmj.com/content/76/2/318