Shang-Ming Zhou – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Mae gweithgarwch corfforol yn bwysig ym mhob cyfnod bywyd am ei fod yn atal gordewdra, yn gwella llesiant ac yn lleihau risg o ran nifer o gyflyrau cronig megis clefyd y galon, arthritis a diabetes.
Mae plentyndod yn un o’r cyfnodau pwysicaf ar gyfer ffurfio ymddygiad iechyd yn y dyfodol. Mae tystiolaeth yn dangos bod gweithgarwch corfforol o oedran ifanc yn olrhain i oedolaeth a bod ymddygiad sy’n gysylltiedig â gweithgarwch corfforol a fabwysiadwyd tra ein bod yn ifanc yn debygol o barhau drwy gydol ein bywyd.
Mae’r blynyddoedd cynnar yn gyfnod arwyddocaol ar gyfer tyfu a datblygu, ac oherwydd hyn, mae’r Adran Iechyd yn y Deyrnas Unedig wedi llunio canllawiau o ran gweithgarwch corfforol ar gyfer plant o enedigaeth i 5 mlwydd oed. Mae’r canllawiau hyn yn annog gweithgarwch corfforol o enedigaeth, trwy weithgareddau ar y llawr ac yn y dŵr. Fodd bynnag, nid oes llawer o wybodaeth ynghylch y ffactorau sy’n rhagweld iechyd corfforol a faint o weithgarwch sy’n arferol i fabanod (oed geni, 1 oed) a babanod (1 i 3 oed).
Er mwyn llenwi’r bwlch hwn, mae tîm o ymchwilwyr NCPHWR a leolir ym Mhrifysgol Abertawe wedi archwilio ffactorau sy’n gysylltiedig â lefelau gweithgarwch corfforol babanod 12 mis oed, yn benodol er mwyn archwilio ffactorau a oedd yn proffwydo lefelau uwch o weithgarwch yn 12 mis oed.

Yr Ymchwil
Recriwtiwyd 141 o barau mamau a babanod a chasglwyd lefelau gweithgarwch corfforol gan ddefnyddio mesuryddion cyflymu a’u cysylltu â nodiadau ôl-enedigol a chofnodion meddygol electronig trwy’r Gronfa Ddata Cysylltedd Gwybodaeth Ddi-enw.
Y Canfyddiadau
Cysylltwyd lefelau uwch o weithgarwch corfforol â’r canlynol:
- Bod yn wryw,
- Babanod o faint mwy,
- Lefelau pwysedd gwaed iach gan y fam,
- Beichiogrwydd tymor llawn ,
- Bwyta lefelau uwch o lysiau (babanod),
- Yfed lefelau is o sudd (babanod),
- Bwyta lefelau is o greision ar gyfer oedolion (babanod),
- Cyfnod hwy o fwydo ar y fron,
- Lefelau uwch o symud wrth gysgu (babanod) ond lefelau is o ddeffro.
Cysylltwyd lefelau gweithgarwch corfforol is â:
- Benywod
- Babanod llai
- Genedigaeth gynnar
- Lefelau pwysedd gwaed y fam yn uwch,
- Bwyta lefelau is o lysiau,
- Bwyta lefelau uchel o greision,
- Lefelau is o symud yn ystod y nos.
Yr Effaith
Llwyddodd yr astudiaeth hon i adnabod yn glir y ffactorau sy’n gysylltiedig â lefelau gweithgarwch corfforol babanod 12 mis oed.
Cysylltwyd lefelau gweithgarwch babanod yn gryf â ffactorau amgylcheddol beichiogrwydd (y cyfnod rhwng beichiogiad a genedigaeth) ac ôl-enedigol (y cyfnod ar ôl genedigaeth). Ymddengys fod ymddygiad iach yn creu clwstwr, a chysylltwyd diet iach â babanod mwy gweithredol. Bu bechgyn yn llawer mwy gweithredol na merched, hyd yn oed yn 12 mis oed.
Am fod risgiau ar gyfer iechyd gwael yn creu clwstwr yn yr astudiaeth hon, trwy fynd i’r afael ag un ohonynt gellid cael effaith newid ar bopeth arall. Golyga gwella diet babanod y byddant yn fwy gweithredol a fydd yn cael effaith ar eu patrymau cwsg hefyd. Yn y pen draw, gall hyn wella lefelau ffitrwydd corfforol y babanod drwy gydol eu bywydau. Gallai helpu teuluoedd ag ymddygiad iechyd gwael o gyfnod cynnar y beichiogrwydd gael effaith wirioneddol ar iechyd cyffredinol y babanod yn y dyfodol.
Yn bwysig, wrth symud ymlaen gall y darganfyddiadau hyn helpu i lywio ymyraethau er mwyn hyrwyddo bywydau iachach i fabanod ac i ddeall y ffactorau sy’n pennu eu lefelau corfforol.
Darllenwch y cyhoeddiad llawn yma: https://onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1111/ijpo.12512